Bydd cyfres o ddigwyddiadau awyr agored – gyda hyd at 100 o bobol yn cymryd rhan – yn cael eu cynnal fel rhan o arbrawf arbennig y mis hwn.
O Awst 27, bydd Theatr Clwyd yn cael cynnal perfformiadau awyr agored, a bydd rali ceir ar Drac Môn, Ynys Môn, yn mynd rhagddi.
Hefyd, bydd treiathlon ym Mharc Gwledig Pen-brê, Sir Gaerfyrddin, yn cael ei gynnal, ond dim ond y cystadleuwyr fydd yn cael bod yno, ac nid gwylwyr.
Bydd y tri digwyddiad yn cael eu cynnal gyda sêl bendith Llywodraeth Cymru ac os byddan nhw’n mynd rhagddyn nhw’n ddiogel, mae’n bosib y bydd modd cynnal digwyddiadau â rhagor o bobol.
Cyfnod o “ddysgu”
Rhesymeg y Llywodraeth yw fod yr haint yn ei chael hi’n anodd lledu yn amodau’r haf, a thu allan, ac mae’r Prif Weinidog wedi cydnabod mai cyfnod o “ddysgu” yw hyn.
“Byddwn yn parhau i siarad â threfnwyr digwyddiadau am ailddechrau rhai gweithgareddau eraill o bosibl yn yr hydref,” meddai Mark Drakeford.
“Ond am y tro, mae angen inni ddysgu sut mae cynnal digwyddiadau awyr agored yn ddiogel gan gadw pellter cymdeithasol.”
Cyhoeddiadau
Daeth y cyhoeddiad ochr yn ochr â sawl un arall mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.
Wrth annerch y wasg dywedodd y Prif Weinidog y bydd hyd at bedwar cartref yn cael bod yn rhan o aelwydydd estynedig o ddydd Sadwrn (Awst 22) ymlaen.
Ategodd y bydd priodasau ac angladdau yn gallu cynnwys pryd o fwyd i hyd at 30 o bobol – mewn lleoliadau penodol – o fory ymlaen.