Mae barnwr wedi gofyn am adroddiadau seiciatryddol am ddynes sydd wedi’i chyhuddo o drywanu dyn oedrannus i farwolaeth mewn siop yng Nghwm Rhondda.

Mae Zara Radcliffe, sy’n 29 oed, wedi’i chyhuddo o drywanu John Rees, 88 oed o Drealaw, mewn siop Co-Op ym Mhen-y-graig ar Fai 5, ac o geisio llofruddio Lisa Way, nyrs 53 oed; Gaynor Saurin, 65 oed; ac Andrew Price, 58 oed.

Dydy hi dim yn glir ar hyn o bryd a fydd hi’n ddigon iach i gyflwyno’i phle yn Llys y Goron Abertawe, ar ôl i arbenigwr seiciatryddol ddweud fis diwethaf ei bod hi “jyst â bod yn iawn i bledio”.

Mae lle i gredu bod ei chyflwr wedi gwaethygu ers hynny, a’i bod hi bellach dan orchymyn iechyd meddwl yn yr ysbyty.

Bydd gwrandawiad pellach ar Fedi 11, a gallai’r achos ddechrau ar Hydref 19 yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Bydd Zara Radcliffe yn aros yn yr ysbyty tan hynny.