Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Awst 21) y bydd hyd at bedwar cartref yn cael bod yn rhan o aelwydydd estynedig o ddydd Sadwrn (Awst 22) ymlaen.

Bydd e hefyd yn caniatáu ymweliadau dan do â chartrefi gofal yng Nghymru o ddydd Sadwrn, Awst 29 yn amodol ar reolau llym yn cael eu rhoi yn eu lle.

Bydd priodasau ac angladdau hefyd yn gallu cynnwys pryd o fwyd i hyd at 30 o bobol mewn lleoliadau sy’n addas ar gyfer cadw pellter cymdeithasol.

Bydd y prif weinidog yn cynnal cynhadledd i’r wasg am 12.30yp am y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud â lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru.

Ond bydd e hefyd yn rhybuddio, er gwaetha’r llacio, nad dyma’r amser i roi’r gorau i’r camau gofalus mae pobol wedi eu cymryd hyd yn hyn i fynd i’r afael â’r coronafeirws.