Mae pobol yn cael eu cynghori i gadw llygad ar restr gwledydd teithio diogel Llywodraeth Prydain gan fod disgwyl i rai gwledydd gael eu tynnu wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws gynyddu.

Y dyfalu ar hyn o bryd yw y gallai Croatia gael ei thynnu oddi y rhestr o wledydd diogel, a’r cyngor ar hyn o bryd yw i bobol ynysu am 14 diwrnod os ydyn nhw’n dychwelyd i wledydd Prydain o dramor – rhag ofn y bydd rhai gwledydd eraill yn cael eu tynnu.

Mae Ffrainc hefyd wedi’i thynnu am nad yw’n cael ei chyfrif yn wlad ddiogel i deithio iddi ar hyn o bryd.

Mae cyfradd achosion Croatia yn uwch nag 20 o bob 100,000 o’r boblogaeth, sef y terfyn ar gyfer gwledydd diogel.

Bydd rhaid i bobol sy’n dychwelyd o Awstria, Croatia a Trinidad & Tobago ar ôl 4 o’r gloch fore Sadwrn (Awst 22) ynysu am 14 diwrnod, ond fydd dim rhaid iddyn nhw ynysu ar ôl dychwelyd o Bortiwgal o hyn ymlaen.Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae gwledydd y Balkan hefyd yn ardal i fod yn wyliadwrus ohoni.