Mae Steve Bannon, cyn-ymgynghorydd yr Arlywydd Donald Trump yn y Tŷ Gwyn, wedi cael ei arestio ynghyd â thri pherson arall ar gyhuddiad o dwyll yn ymwneud â chynllwyn codi arian ar-lein mewn perthynas â wal Mecsico.

Cafodd y cyhuddiadau eu cyflwyno yn Llys Ffederal Manhattan.

Mae honiadau bod Steve Bannon wedi derbyn mwy na 1,000,000 o ddoleri (£760,000) ei hun, gan ddefnyddio peth o’r arian hwnnw i dalu Brian Kolfage, cyd-ddiffynnydd yn yr achos, yn gyfrinachol ac i guddio cannoedd o filoedd o ddoleri o dreuliau personol.

Mae erlynwyr ffederal yn honni bod Bannon a thri arall wedi “creu cynllwyn i dwyllo cannoedd o filoedd o roddwyr” mewn cysylltiad ag ymgyrch ariannu torfol ar-lein a gododd fwy na 25,000,000 o ddoleri (£19,000,000) i adeiladu wal ar hyd ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau.

Wnaeth llefarydd ar ran Bannon ddim ymateb i gais am sylw.

Y cyhuddiad

Yn ôl y cyhuddiad, addawodd Steve Bannon y byddai 100% o’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect ond, ar y cyd, fe wnaeth y diffynyddion ddefnyddio cannoedd o filoedd o ddoleri mewn modd amheus.

Roedd y cyhuddiad yn dweud eu bod yn ffugio anfonebau i guddio’r hyn oedd yn digwydd mewn gwirionedd.

Mae Bannon ymhlith nifer sylweddol o gyn-ymgynghorwyr Donald Trump sydd wedi cael eu hunain mewn helynt – maen nhw’n cynnwys cyn-gadeirydd ei ymgyrch Paul Manafort, ei gyfreithiwr Michael Cohen a’i gyn-ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol Michael Flynn.

Roedd cynllun mewnfudo a gafodd ei ddatgelu gan Donald Trump y llynedd yn cynnwys cynnig i ganiatáu i roddion y cyhoedd dalu am ei wal hir ar y ffin ddeheuol.

Ar yr adeg honno, roedd yr ymgyrch GoFundMe a gafodd ei lansio gan y cyn-filwr Brian Kolfage wedi codi mwy na 20,000,000 o ddoleri i adeiladu’r wal.

Daeth y diffynyddion i wybod fis Hydref y llynedd y gallen nhw fod yn destun ymchwiliad troseddol ffederal, ac mae’r erlynwyr yn dadlau iddyn nhw gymryd camau pellach i guddio’r twyll, gan gynnwys gwyngalchu arian.

Ond mae Brian Kolfage yn gwadu hynny.

Dywedodd Donald Trump wrth ohebwyr nad oedd yn gwybod dim am y prosiect, ac nad oedd fyth yn credu mewn ariannu’r wal yn breifat.

Ac mae wedi wfftio ei fod e bellach mewn cysylltiad â Steve Bannon ynghylch y prosiect.