Bydd rhaglen hyfforddi beilot gan undeb UNSAIN yn dysgu gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sut i adnabod arwyddion, a riportio achosion o gaethwasiaeth fodern i’r awdurdodau.
Mae ystadegau yn dangos bod cynnydd o 30% yn yr achosion o gaethwasiaeth fodern yr adroddwyd amdanynt yng Nghymru rhwng 2018 – 2019.
Mae grŵp aelodau duon UNSAIN Cymru hefyd yn cynnal digwyddiad ddydd Sul yma (Awst 23) i nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu’r Fasnach Gaethweision.
“Mae UNSAIN wedi ymrwymo i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar bob ffurf”, meddai Kebba Manneh, cadeirydd Grŵp Aelodau Duon UNSAIN Cymru.
“Roedd 60% o’r achosion riportiwyd yng Nghymru yn ymwneud ag ecsbloetio yn y gwaith.
“Dyna pam mae gan undebau llafur fel UNSAIN ran fawr yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth fodern.
“Gyda 100,000 o aelodau yng Nghymru, gall UNSAIN helpu i addysgu ein haelodau a’r gymuned ehangach wrth gydnabod arwyddion o gam-fanteisio.”
‘Mynd i’r afael â chaethwasiaeth’
Eglurodd Jasmin Ahmed, sydd wedi datblygu’r cynllun hyfforddi y bydd yr hyfforddiant yn helpu pobol i ddeall eu cyfrifoldebau ac i wybod pa gamau i’w cymryd.
“Y mwyaf o bobol sydd wedi’u hyfforddi ac sy’n ymwybodol o’r arwyddion o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl, y mwyaf tebygol ydym ni i fynd i’r afael â chaethwasiaeth.
“Bydd y bobol yma yn helpu i atal yr arfer anghyfreithlon ac anfoesol hwn.
“Cafodd caethwasiaeth ei ddiddymu yn y DU ym 1833, ond dyma ni yn 2020 ac yn dal i siarad am ffyrdd o fynd i’r afael ag ef.
“Mae angen i ni uno a mynd i’r afael â chaethwasiaeth gyda’n gilydd os ydym am ei ddiddymu o fewn ein cymunedau.”
Mae adroddiadau bod o leiaf 100,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig heddiw yn dioddef o gaethwasiaeth fodern.