Mae landlord tafarn yn Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ddal yn gwerthu alcohol ddwywaith mewn un diwrnod yn ystod y cyfnod clo wedi cael rhybudd gan bwyllgor trwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin.

Anwybyddodd Richard Pearce, landlord tafarn y Santa Clara yn Sanclêr, reolau Covid-19, a daeth yr Heddlu o hyd i wyth person yn yfed ar y safle.

Bu’n rhaid i dafarndai yng Nghymru gau eu drysau ar Fawrth 21.

Doedd gan dafarndai ddim hawl i ail agor tan fis Gorffennaf –  tu allan yn unig ar Orffennaf 13, a’r tu mewn ar Awst 3.

‘Peryglu bywydau’

Yn ôl y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Ddiogelu’r Cyhoedd, nid yn unig roedd Richard Pearce yn torri rheolau coronafeirws, ond hefyd “yn rhoi bywydau’r cyhoedd mewn perygl”.

“Roedd y wlad gyfan o dan gyfyngiadau symud ac nid oes esgus dros yr hyn a wnaeth,” meddai.

“Mae gan landlordiaid a deiliaid trwydded safle gyfrifoldebau penodol, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn rhybudd clir.”

Pwyllgor trwyddedu

Bu’n rhaid i Richard Pearce wynebu pwyllgor trwyddedu am fynd yn groes i reoliadau iechyd yn sgil y coronafeirws.

Dywedodd ei fod e wedi anfon negeseuon testun at ei ffrindiau yn eu gwahodd i’r dafarn i gael diod i ddiolch iddyn nhw am wneud gwaith paentio iddo.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys iddyn nhw ddod o hyd i bedwar o bobol, ynghyd â Richard Pearce, y tu fewn i’r dafarn yn yfed alcohol ar ddydd Sul, Mawrth 29.

Cafodd yr yfwyr orchymyn i adael a chafodd Richard Pearce rybudd.

Ond awr yn ddiweddarach, dychwelodd yr heddlu i’r safle a dod o hyd i wyth person yn “yfed ac yn chwerthin” yn y bar.

Ar ôl clywed y dystiolaeth a chael cyngor cyfreithiol, penderfynodd y pwyllgor beidio â thynnu’r drwydded oddi ar y landlord a’r safle.

Yn hytrach, roedd y pwyllgor wedi gosod ystod o amodau caeth, gan gynnwys gorchymyn i osod camerâu cylch-cyfyng wrth y fynedfa a’r allanfa, a gorfodi Richard Pearce i fynychu cwrs trwydded bersonol.

Ers hynny, mae’r dafarn wedi ailagor ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio a does dim cwynion pellach wedi bod.