Fe fydd tafarndai, caffis a thai bwyta yn cael agor yng Nghymru heddiw (Dydd Llun, Gorffennaf 13) ond tu allan yn unig.

Fe fyddan nhw’n cael agor tu mewn ar Awst 3 cyhyd a bod achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng.

Mae rhai busnesau mawr, fel Wetherspoons a Brains, wedi dweud na fyddan nhw’n ail-agor nes eu bod yn cael croesawu cwsmeriaid y tu mewn i’w tafarndai ar Awst 3 ond mae disgwyl i nifer o dafarndai annibynnol ail-agor heddiw.

Fe fydd siopau trin gwallt hefyd yn cael ail-agor eu drysau heddiw gydag apwyntiadau yn unig, wrth i ragor o gyfyngiadau gael eu llacio.

Yn ogystal bydd atyniadau twristaidd dan do yn cael agor eto a chwaraeon awyr agored, yn cynnwys hyd at 30 o bobl, yn cael ail-ddechrau.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener y bydd rhagor o gyfyngiadau yn cael eu llacio yn yr wythnosau nesaf cyhyd a bod y diwydiant lletygarwch yn dangos eu bod yn gallu agor yn ddiogel dan do er mwyn rhoi “hyder” i gwsmeriaid.

Os yw’r coronafeirws yn parhau o dan reolaeth, fe fydd parciau chwarae, campfeydd awyr agored a chanolfannau cymunedol yn cael agor ar Orffennaf 20 tra bydd salonau harddwch, siopau tatw a siopau trin ewinedd yn cael ail-agor ar Orffennaf 27. Mae disgwyl i sinemâu, orielau ac amgueddfeydd hefyd ailagor bryd hynny.