Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ar ol i ddyn 19 oed gael ei drywanu yn ardal Grangetown, Caerdydd fore dydd Sul, Gorffennaf 12.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau i’w goesau, a dywed yr heddlu ei fod mewn cyflwr sefydlog yn dilyn y digwyddiad yn Heol Ferry tua 4.15yb.

Nid oes unrhyw un wedi eu harestio mewn cysylltiad a’r digwyddiad hyd yn hyn.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu a allai fod wedi bod yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod * 246653.