Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, wedi bod ar safle cwmni dur Celsa yng Nghaerdydd yn ystod ei ddiwrnod cyntaf o ymweliadau swyddogol ers ymlediad y coronafeirws.

Fe fu’n trafod sut mae’r cwmni wedi manteisio ar fenthyciad gan Lywodraeth Prydain, sydd wedi diogelu mwy na 1,000 o swyddi, gan gynnwys 800 ar brif safleoedd y cwmni yn ne Cymru.

Yn ôl amodau’r benthyciad, sy’n gorfod cael ei ad-dalu’n llawn, bydd rhaid i’r cwmni ateb nifer o ofynion cyfreithiol er lles y gweithlu, y cwmni a’r gymuned ehangach.

Yn eu plith mae ymrwymiad i warchod swyddi, newid hinsawdd a thargedau net sero, gwella llywodraethiant corfforaethol gan gynnwys cyfyngu ar gyflogau a thaliadau bonws ac ymrwymiadau trethi.

Mae hefyd yn gofyn am ragor o ymrwymiad gan randdeiliaid a benthycwyr cyfredol.

Ar draws y diwydiant dur, mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi mwy na £300m tuag at gostau trydan ers 2013 ac wedi cyhoeddi adroddiadau ar ddur sector cyhoeddus sydd wedi’i brynu gan gwmnïau yng ngwledydd Prydain a phrosiectau isadeiledd sy’n werth £500m i’r economi dros y degawd nesaf.

Cynnal y cwmni

Yn ôl Luis Sanz, cadeirydd Celsa, fe fydd y benthyciad yn cynnal statws y cwmni o fewn diwydiant adeiladu gwledydd Prydain.

“Ro’n i’n falch iawn o allu diolch i’r Ysgrifennydd Gwladol yn bersonol am ei gymorth wrth sicrhau benthyciad gan Lywodraeth Prydain a fydd, ynghyd â chefnogaeth benthycwyr cyfredol, yn diogelu ein sefydlogrwydd ariannol a’n heffeithlonrwydd gweithredol,” meddai.

“Mae Celsa wedi ymrwymo erioed i fod yn gynhyrchydd dur arloesol ac effeithlon yn y Deyrnas Unedig.

“Edrychwn ymlaen at barhau i chwarae rôl hanfodol yn adferiad economaidd y Deyrnas Unedig yn dilyn y pandemig hwn, gyda’n cynnyrch yn cefnogi seiliau prosiectau adeiladu eiconig.”

‘Hanes hir a balch o gynhyrchu dur yng Nghymru’

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydweithio’n agos â Celsa a phartneriaid eraill i sicrhau cytundeb a fydd yn cryfhau dyfodol economaidd y rhanbarth,” meddai Simon Hart.

“Ro’n i wrth fy modd o glywed yn uniongyrchol sut mae’r benthyciad hwnnw’n cael ei ddefnyddio i sicrhau cynhyrchiant Celsa Steel ac i warchod swyddi sy’n gofyn am sgiliau o safon uchel yn ei safleoedd yn ne Cymru.

“Mae gennym hanes hir a balch o gynhyrchu dur yng Nghymru.

“Edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â thîm Celsa i helpu i sicrhau llwyddiant y cwmni.”