John Davies, Tegryn Jones, Carys Ifan, Cris Tomos a Non Davies fydd swyddogion Eisteddfod Genedlaethol 2026.

Bydd y brifwyl yn ymweld â Sir Benfro ymhen dwy flynedd, a’r pump yma fydd yn llywio’r gwaith yn lleol dros y flwyddyn a hanner nesaf.

Mae’r gwaith o greu’r pwyllgorau testunau eisoes wedi dechrau, a’r cyfarfodydd i gytuno ar y cystadlaethau a’r beirniaid ar y gweill, er mwyn sicrhau bod y Rhestr Testunau’n barod erbyn y gwanwyn.

Mae dalgylch yr Eisteddfod yn golygu cydweithio gyda thrigolion yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin hefyd.

Y rheiny sydd wedi gwirfoddoli i ymuno â’r pwyllgorau lleol sydd wedi pleidleisio i ethol swyddogion y Pwyllgor Gwaith.

John Davies, Carys Ifan, Cris Tomos, Non Davies a Tegryn Jones

Y Pwyllgor

John Davies – Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith

Yn gyn-arweinydd ar Gyngor Sir Penfro, mae John Davies wedi gwasanaethu ar amryw o gyrff a sefydliadau cenedlaethol.

Mae’n arbennig o awyddus i Eisteddfod 2026 annog trigolion cymunedau ar draws y dalgylch i ddod ynghyd wrth baratoi ar gyfer yr ŵyl.

Tegryn Jones – Is-gadeirydd Strategol Eisteddfod 2026

Tegryn Jones yw Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac mae’n angerddol am y Gymraeg a’i diwylliant.

Wrth ei waith, mae’n cydweithio gydag ystod eang o randdeiliaid, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a chymunedau.

Carys Ifan – Is-gadeirydd Diwylliannol

Yn wreiddiol o Landudoch yn Sir Benfro, mae Carys Ifan yn byw yn Llangrannog yng Ngheredigion ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin, ac felly’n cynrychioli’r tair sir sy’n rhan o’r Eisteddfod.

Yn Gyfarwyddwr ar Ganolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin, mae hi wedi bod yn gweithio ar nifer fawr o brosiectau diwylliannol o bob math.

Cris Tomos fydd yn gyfrifol am Gronfa Leol Eisteddfod 2026.

Mae Cris Tomos wedi bod yn gweithio yn y sector datblygu cymunedol ers dros 30 mlynedd, ac wedi cefnogi grwpiau cymunedol a hyrwyddwyr i godi arian ar gyfer mentrau cymunedol a chwmnïau cydweithredol o bob math.

Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i PLANED, elusen datblygu cymunedol sy’n cefnogi mentrau cymunedol ar draws Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Non Davies – Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.

Non Davies yw’r Rheolwr Corfforaethol dros Ddiwylliant a’r Gymraeg yng Nghyngor Sir Ceredigion, ac mae hi’n gofalu am Theatr Felinfach, Gwasanaeth Cerdd y Sir, Amgueddfa Ceredigion a CERED: Menter Iaith Ceredigion.

Roedd hi’n gadeirydd pwyllgor Cronfa Leol Aberteifi a’r Cylch ar gyfer Eisteddfod Ceredigion yn 2022, ac yn is-gadeirydd y Gronfa Leol ar draws y dalgylch.

850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf

Wrth eu croesawu, dywed Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, eu bod nhw’n “edrych ymlaen yn arw” at gydweithio â’r tîm.

“Mae hi bron yn chwarter canrif ers cynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal,” meddai.

“Mae 2026 yn flwyddyn bwysig wrth i ni ddathlu 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi ’nôl yn 1176.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithredu mewn ffordd newydd mewn dalgylch sy’n cynnwys rhannau o ddwy sir arall, sy’n gyfle i ni gael cydweithio unwaith eto gyda thrigolion Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.”