Paul Hilleard o Bontypridd sydd wedi ennill gwobr Comedi Newydd y BBC ar gyfer 2024.

Daeth Hilleard, sy’n byw ym Mryste, i’r brig yn y rownd derfynol yn yr Alexandra Theatre yn Birmingham neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 13), gafodd ei darlledu ar BBC1.

Aeth e gam ymhellach yn y gystadleuaeth hon, ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol Digrifwr Newydd y Flwyddyn yn Llundain y llynedd.

Yn sgil ei fuddugoliaeth, bydd e’n cael tâl am ysgrifennu a pherfformio peilot 30 munud o hyd wrth gael ei fentora gan un o gomisiynwyr comedi’r Gorfforaeth.

Mae e hefyd wedi ennill tlws, gwobr ariannol o £1,000 a chael perfformio’n fyw ar y BBC ar noson Comic Relief ym mis Mawrth.

Ymhlith y rhai oedd wedi magu enw iddyn nhw eu hunain drwy’r gystadleuaeth hon yn y gorffennol mae Peter Kay, Lee Mack, Russell Howard, Alan Carr, Sarah Millican a Joe Lycett.