Mae barnwr wedi gwrthod cymeradwyo her gyfreithiol yn erbyn hawl Cyngor Gwynedd i sicrhau bod perchnogion tai yn gorfod ceisio caniatâd cyn trosi eu heiddo’n ail gartref neu’n llety gwyliau.
Mae rhoi Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar waith yn golygu bod yn rhaid i bobol sydd am drosi eu heiddo’n ail gartref neu’n llety gwyliau dderbyn caniatâd cynllunio gan y Cyngor yn gyntaf.
Fe gyflwynodd Cyngor Gwynedd y mesur ym mis Medi, yn dilyn cyfnod ymgynghori hirfaith, yn sgil yr hyn maen nhw’n ei alw’n ‘argyfwng tai’ yn yr ardal.
Roedd ymgyrchwyr o blaid ail gartrefi’n gobeithio y byddai modd herio’r defnydd o Gyfarwyddyd Erthygl 4 gerbron yr Uchel Lys.
Cododd y grŵp Pobl Gwynedd yn Erbyn Erthygl 4 gyfanswm o £73,000 er mwyn talu am adolygiad barnwrol.
Ond ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 12), fe gadarnhaodd barnwr na fyddai’r adolygiad yn cael ei ganiatáu, oherwydd yr ymdrech amlwg a wnaed gan Gyngor Gwynedd er mwyn gwireddu’r polisi mewn modd cyfreithlon.
Croesawu’r dyfarniad
Mae Cymdeithas yr Iaith, sy’n dadlau bod rhwystro creu mwy o ail gartrefi yn rhan hanfodol o warchod dyfodol yr iaith yn ei chadarnleoedd, wedi croesawu’r dyfarniad hwn.
“Mae poblogaeth Gwynedd yn wynebu argyfwng tai sy’n bygwth tanseilio ei chymunedau a’r Gymraeg wrth i deuluoedd a phobol ifanc gael eu gorfodi i adael oherwydd anfforddiadwyedd tai i’w prynu neu rentu,” meddai Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith.
“Mae cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 a dechrau ymyrryd yn y farchnad dai agored yn rhan o’r datrysiad, felly rydym yn croesawu’r dyfarniad yma sy’n cadarnhau ei ddilysrwydd, ac yn ei sgil yn erfyn ar awdurdodau lleol eraill i gyflwyno mesurau tebyg.