Mae corff Ewropeaidd wedi cydnabod fod yr iaith Fasgeg yn wynebu “argyfwng”.
Daeth Cynulliad Cyffredinol Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop ynghyd yn Bilbao dros y penwythnos.
Fe wnaeth cynadleddwyr o bob cwr o Ewrop bleidleisio’n unfrydol o blaid cynnig yn datgan yr argyfwng sy’n wynebu’r iaith a’i siaradwyr.
Sefyllfa’r iaith
Yn ôl y cynnig, gafodd ei ddarllen ar lafar yn y cyfarfod, mae yna arwyddion fod y cynnydd sydd wedi’i wneud dros y blynyddoedd wrth geisio normaleiddio ac adfywio’r iaith “wedi arafu”.
Er bod nifer y siaradwyr yn cynyddu, mae’r cynnig yn nodi “nifer o ffeithiau sy’n datgelu gwendid y cynnydd” sydd wedi’i wneud, gan gynnwys:
- gostyngiad yn nifer y siaradwyr yng ngogledd Gwlad y Basg
- yn Navarre, dydy 60% o ddisgyblion ddim yn dod i gysylltiad o gwbl â’r iaith yn eu haddysg
- gostyngiad yn y defnydd o’r Fasgeg yn ei chadarnleoedd
- mwy o Sbaeneg yn cael ei defnyddio yng Ngwlad y Basg
- llai o siaradwyr sy’n gallu addasu’n ieithyddol
- dim ond 17.5% o bobol sy’n defnyddio mwy o Fasgeg na Sbaeneg
Dywed y cynnig fod y defnydd o’r Fasgeg fel iaith gymdeithasol, sef “y dangosydd pwysicaf o ran cyflwr iaith”, yn “wan” ac mae disgwyl iddi “wanhau ymhellach”.
Statws
Yn ôl y cynnig, mae sefyllfa wan yr iaith yn ymwneud â’i statws fel iaith ac effaith hynny ar y gymuned o siaradwyr Basgeg.
Does ganddi ddim statws swyddogol yng Ngwlad y Basg, ac mae’r cynnig yn nodi bod hyn yn “rhwystr ychwanegol yn ei hadferiad fel iaith leiafrifedig”.
Yn ei chadarnleoedd, mae cyfres o ddyfarniadau cyfreithiol yn “chwalu polisïau ieithyddol”, sy’n cael cryn effaith ar ei normaleiddio a’i hadfywio.
Mae’r dyfarniadau hyn yn ystyried bod deddfu o blaid yr iaith Fasgeg yn enghraifft o “wahaniaethu”.
Dywed y cynnig ymhellach fod hyn yn rhan o “globaleiddio” sy’n arwain at wthio ieithoedd lleiafrifedig ymhellach i’r cyrion, a bod datblygiadau technolegol yn cael yr un effaith â globaleiddio.
“Yn gryno, o ganlyniad i globaleiddio a digideiddio bywydau pobol, mae ieithoedd sy’n tra-arglwyddiaethu yn tra-arglwyddiaethu’n fwy fyth, ac mae ieithoedd lleiafrifedig hyd yn oed yn fwy bregus,” medd y cynnig.
‘Argyfwng’
Dywed y cynnig fod y Galiseg a’r Gatalaneg yn wynebu’r un peryglon, ond fod yr iaith Fasgeg a’i siaradwyr bellach yn wynebu argyfwng.
“Oni bai bod mesurau brys yn cael eu cymryd yn y tymor byr i wyrdroi’r tueddiadau cymdeithasol-ieithyddol a’r problemau strwythurol, mae dirwasgiad ieithyddol ar ddod,” medd y cynnig.
“Oni bai eu bod nhw’n cymryd cam mawr ymlaen o ran polisi ieithyddol, maen nhw ar eu ffordd tuag at golli yn hytrach nag ennill hyfywedd cymdeithasol.”
“Nid ar chwarae bach mae cyhoeddi argyfwng ieithyddol,” medd y cynnig ymhellach, “ond mae’n ffordd o gymryd y cam cyntaf tuag at normaleiddio ac adfywio’r iaith Fasgeg”.
Beth sydd angen ei wneud?
Yn ôl y cynnig, mae’n rhaid “rhoi’r mater hwn wrth galon yr agenda wleidyddol a chymdeithasol”.
Mae’r cynnig yn galw ar sefydliadau, awdurdodau ac asiantiaid gwleidyddol a chymdeithasol i “ystyried normaleiddio ac adfywio’r iaith Fasgeg fel blaenoriaeth”.
Mae hefyd yn galw ar ddinasyddion i wneud “ymrwymiad sifil” i “normaleiddio ac adfywio” yr iaith Fasgeg “ac ieithoedd lleiafrifedig eraill”.
“Yn y cyd-destun hwn, lle mae bywyd ei hun yn cael ei roi mewn perygl, mae cefnogi ieithoedd a chymunedau diwylliannol lleiafrifedig yn weithred sy’n cefnogi’r byd,” medd y cynnig.
Cafodd y cynnig ei basio’n unfrydol.