Mae dros 60% o famau yng Nghymru yn ystyried ailhyfforddi i wneud gyrfa newydd, ond mae arian ac amser yn eu dal nhw’n ôl, yn ôl arolwg.

Cost gofal plant yw’r ffactor fwyaf sy’n poeni mamau plant hyd at bump oed (50%) gafodd eu holi fel rhan o ymchwil y Brifysgol Agored wth ystyried eu gwaith.

Mae’r ymchwil yn dangos bod 42% yn poeni am “jyglo” gwaith, gofal plant a pherthnasau personol.

Pwysleisia’r Brifysgol Agored y gall opsiynau astudio hyblyg a fforddiadwy fod yn allweddol i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd at addysg ond sy’n cael hynny’n anodd.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod dwy ym mhob pump o famau’n poeni am ffioedd wrth ystyried eu gyrfaoedd, a 27% yn poeni am astudio o gwmpas eu cyfrifoldebau fel rheini.

Dywed 51% o’r mamau y byddai opsiynau dysgu hyblyg, fel astudio’n rhan amser neu o bell, yn eu cymell nhw i ailhyfforddi.

Ymhlith y cynigion eraill fyddai’n annog mamau i ailhyfforddi mae cymorth ariannol a ffioedd hyfforddi fforddiadwy.

Ers 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi grantiau o hyd at £4,500 i gynorthwyo myfyrwyr israddedig rhan amser â chostau byw, a benthyciad ychwanegol o £5,974.

“Poeni’n ofnadwy” ar isafswm cyflog

Graddiodd Stephanie Manning, sy’n 40 oed ac yn dod o Gaerffili, o’r Brifysgol Agored ar ôl astudio seicoleg yn rhan amser, ac mae hi bellach yn ymarferydd iechyd a lles.

Heb gynnig i astudio’n hyblyg, fyddai hi byth wedi gallu gwneud hynny, meddai.

“Yn 34 oed, roeddwn i’n rhiant sengl â merch chwech oed. Er mwyn talu am yr hanfodion yn unig roeddwn i’n gweithio’n galed mewn rôl weinyddol, gan ennill yr isafswm cyflog.

“Gwnaeth hyn i mi boeni’n ofnadwy am fy nyfodol a’m gallu i ddarparu ar gyfer fy mhlentyn wrth iddi fynd yn hŷn.

“Fe benderfynais i gofrestru gyda’r Brifysgol Agored am fod ei chyrsiau ar-lein yn caniatáu i mi fynd ar drywydd fy niddordeb mewn seicoleg mewn ffordd oedd yn gweithio i mi – gan astudio ar ôl i fy merch fynd i’r gwely ac ar benwythnosau.

“Diolch i gefnogaeth barhaus y Brifysgol Agored a’i hopsiynau dysgu hyblyg, bu modd i mi ennill fy ngradd a chael dyrchafiad o fy swydd weinyddol lefel mynediad mewn elusen gyflogaeth leol i fod yn ymarferydd iechyd a lles o fewn y sefydliad.

“Mae hyn wedi dyblu fy incwm misol ac wedi caniatáu i mi roi’r bywyd roeddwn i wastad wedi breuddwydio amdano i fy merch.”

‘Amser delfrydol i ddysgu’

Mae’r Brifysgol Agored yn mynd i’r afael â’r mater drwy eu menter newydd, Mamentwm, sy’n anelu at ymbweru mamau sydd eisiau datblygu’u gyrfaoedd tra bod eu plant yn yr ysgol neu’r feithrinfa.

Rhan o’r fenter newydd yw lansio canllawiau ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnig arweiniad ymarferol i famau newydd gael cydbwysedd rhwng astudio a bod yn rhieni, yn ogystal ag ymgyrch hysbysebu sy’n herio’r canfyddiadau am fod yn fam.

Eglura Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Brifysgol Agored yng Nghymru, fod canlyniadau’r arolwg yn dangos bod rhieni yng Nghymru’n barod i gael addysg uwch, ond bod angen opsiynau hyblyg a’r cymorth cywir i wneud hynny.

“Mae model y Brifysgol Agored o addysgu’n rhoi’r cyfle i rieni fel Stephanie astudio rhywbeth sydd o ddiddordeb iddynt, ar gyflymdra sy’n addas at eu hamgylchiadau eu hunain, a hynny mewn maes sy’n gallu datblygu eu gyrfa,” meddai Michelle Matheron.

“Diolch i’r cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr rhan amser yng Nghymru ar hyn o bryd, dyma’r amser delfrydol i ddechrau dysgu a darganfod eu potensial.”