Mae mesurau newydd y Canghellor Rachel Reeves yn “fwy o fygythiad na Covid” i’r sector, sydd eisoes yn dioddef yn ariannol, yn ôl Fforwm Gofal Cymru.

Mae’r grŵp, sy’n cynrychioli cartrefi gofal Cymru, yn rhybuddio y gallai’r Gyllideb fod yn fygythiad difrifol i’r gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru ac y bydd yn rhaid i nifer o gartrefi a chwmnïau gofal gau.

Mae Mario Kreft, cadeirydd y grŵp, yn dweud mai’r unig ffordd i osgoi argyfwng yw cynnig eithriad i wasanaethau gofal i’r cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr, yn debyg i’r un mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei dderbyn.

‘Ergyd driphlyg’

Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi bod yn wynebu heriau difrifol ers y pandemig.

Mae 40 yn llai o gartrefi gofal yng Nghymru ers 2020, ac mae’r ymgynghorwyr eiddo busnes arbenigol, Christie & Co Cymru, yn gweld prinder o 10,000 yn nifer y gwelyau cartrefi gofal sydd eu hangen ar Gymru dros y deng mlynedd nesaf.

Bellach, mae Fforwm Gofal Cymru yn dadlau bod potensial i’r “ergyd driphlyg” yn y Gyllideb wneud niwed pellach gwerth £150m i’r gwasanaethau gofal.

Bydd cynnydd o 1.2% yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr, toriad i’r trothwy eilaidd i £5,000 a’r cynnydd o 5% yn y Cyflog Byw Gwirioneddol i £12.60 i gyd yn ychwanegu at dwll du cyllido yn y sector, yn ôl y grŵp.

“Bydd y mesurau hyn yn golygu bod cartrefi gofal o faint cyfartalog yn wynebu costau ychwanegol o ddegau o filoedd o bunnoedd, gyda darparwyr gofal mwy yn wynebu biliau mwy fyth o gannoedd ar filoedd o bunnoedd,” meddai Mario Kreft.

“Mae angen i ni gael sicrwydd prydlon y bydd y sector yn cael ei ad-dalu am y costau ychwanegol hyn.”

“Costau cyflog mawr” yn creu poen

Dywed Mario Kreft fod y sector gofal yn wynebu heriau arbennig yn sgil y cynnydd yng nghost cyflogi, oherwydd nifer y gweithwyr sydd eu hangen ar y sector.

“Mae gan y sector gofal cymdeithasol gostau cyflog mawr eisoes o’i gymharu â diwydiannau eraill oherwydd nifer y gweithwyr sydd eu hangen,” meddai.

“Er mwyn rhoi hyn yn ei gyd-destun, mae bil cyflog cartref preswyl nodweddiadol lle nad oes angen gofal nyrsio tua 60% o gyfran trosiant y cartref.

“Mae hynny’n cynyddu mewn cartrefi gofal i 65% a mwy.

“Ar gyfer cartref lle mae angen darparu gofal nyrsio, mae canran y cyflogau dros 80% o’r trosiant.

“Yn ogystal â hynny, mae ofnau gwirioneddol y bydd hyn yn cyflymu nifer y staff sy’n gadael gofal cymdeithasol er mwyn mynd i weithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

“Asedau cymunedol” sy’n cynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd

Mae Mario Kreft yn mynnu bod gwasanaethau gofal yn asedau cymunedol sy’n cynorthwyo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac felly mai dim ond drwy gynnig eithriad tebyg i’r un mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ei dderbyn y bydd modd i’r ddau sector ffynnu.

“Yn y bôn, mae’r sector gofal cymdeithasol yn wasanaeth cymorth i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a dylid rhoi’r un eithriad iddo rhag gorfod talu cyfraniadau ychwanegol Yswiriant Gwladol y cyflogwr tra dylid ariannu costau uwch y Cyflog Byw Gwirioneddol gan yr £1.7bn ychwanegol sy’n dod i Gymru o Gyllideb y Canghellor.

“Os na fyddwch chi’n trwsio gofal cymdeithasol, fyddwch chi byth yn trwsio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – mae hi mor syml â hynny.

“Mae gofal cymdeithasol yn ffordd rad iawn o alluogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n rhywbeth costus iawn, i redeg.

“Mae’r cartrefi gofal hyn yn fusnesau, ond maen nhw hefyd yn asedau cymunedol hanfodol sy’n rhoi gwerth gwych am arian, gan alluogi pobol i aros yn eu cymunedau eu hunain.”

Mae’n galw am gymorthdaliadau pellach i’r sector.

“Fe ddaethon ni allan o Covid gyda 40 yn llai o gartrefi gofal, a byddwn o bosib yn colli hyd yn oed mwy o ganlyniad i’r Gyllideb ddinistriol hon oni bai bod y sector yn cael y gefnogaeth y mae’n ei haeddu a’i angen,” meddai.