Y Parchedig Owain Llŷr Evans, colofnydd golwg360, sy’n ymateb i ymddiswyddiad y Gwir Barchedig Justin Welby, Archesgob Caergaint.
Heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 12), ymddiswyddodd Archesgob Caergaint, y Gwir Barchedig Justin Portal Welby, gan ddweud:
“Having sought the gracious permission of His Majesty The King, I have decided to resign as Archbishop of Canterbury.
The Makin Review has exposed the long-maintained conspiracy of silence about the heinous abuses of John Smyth. When I was informed in 2013 and told that police had been notified, I believed wrongly that an appropriate resolution would follow.“
Gyda chyhoeddi Adolygiad Annibynnol Keith Makin i sut y bu i Eglwys Loegr ymdrin â chyhuddiadau o ddegawdau o gam-drin corfforol, rhywiol a seicolegol gan y diweddar fargyfreithiwr John Smyth (1941-2018), gwelwyd fod Justin Welby wedi methu yn ei ddyletswydd, yn broffesiynol ac yn bersonol, i sicrhau, yng ngeiriau Makin, “that the awful tragedy was energetically investigated“.
Perthyn y cyhuddiadau hyn i bentwr o gyhuddiadau tebyg a wnaethpwyd yn erbyn yr Eglwys Gristnogol yn y blynyddoedd diweddar hyn. Fel gweinidog, wn i ddim yn iawn beth i’w ddweud am gyhuddiadau o’r fath, ond mi wn, yn gam neu’n gywir, fod yn rhaid ceisio dweud rhywbeth. Nid taw piau pob sefyllfa.
Gyda chyhoeddi canlyniadau Adroddiad Makin, digwydd dau beth yn naturiol ddigon: sonnir am ragrith, am ymddiriedaeth ar chwâl, am ffydd yn deilchion. Yn ail, tueddir i ystyried gweinidogaeth y sawl a gyhuddwyd – yn y cyd-destun hwn, Justin Welby am ddewis peidio mynd i’r afael â’r cyhuddiadau yn erbyn Smyth – yn gabledd. Ond nid yw ein pechodau, pa mor dywyll bynnag y bôn nhw, yn dileu gwerth ein hymdrechion er daioni, ar yr amod – wrth gwrs – ein bod ni’n ysgwyddo goblygiadau’r pechodau rheini, a hynny’n llwyr a llawn. Mae Mr Welby, wrth ymddiswyddo, yn ceisio gwneud hynny:
“It is very clear that I must take personal and institutional responsibility for the long and retraumatising period between 2013 and 2024.“
“The abuse at the hands of John Smyth was prolific and abhorrent,” meddai Makin. “Words cannot adequately describe the horror of what transpired.”
O feddwl am John Smyth heddiw, a chan ystyried y ffyrdd y bu i Eglwys Loegr ymateb – neu beidio ymateb – i’r erchylltra hwn, dw i’n gweld rhywfaint o berygl anferth y ffydd Gristnogol. Ar ei gorau, gall ein hachub yn llwyr ac yn gyfan. Ar ei waethaf, fe all glwyfo’n ddwfn a chreulon.
Newyddion da sydd gennym – y gorau oll – ond ymhlyg ynddo mae’r potensial i fod yn newyddion eithriadol ddrwg. Nyni, weinidogion ac offeiriaid, esgobion ac archesgobion, yw wynebau cyhoeddus ein ffydd – fe wyddom hynny – ac fe wyddom hefyd, felly, fod angen wynebu’n gyhoeddus oblygiadau methiant y sefydliad Cristnogol i warchod pobol yn ein gofal rhag camdriniaeth ac esgeulustod o bob math. Dylai pob Cristion hefyd gofio fod dau wyneb i’n crefydd ninnau. Crefydd cariad a gobaith ydyw, ond fe all fod yn grefydd fach greulon a chul. Ein dewis ninnau yw pa wyneb a wêl eraill.
Iesu yn dioddef a marw ar y groes yw prif ddelwedd ein ffydd – delwedd erchyll – ac yn union oherwydd ei bod hi’n ddelwedd erchyll mae hi’n medru siarad â’r pechadur ac â’r sawl y pechwyd yn eu herbyn – y ddau fel ei gilydd – am farn bendant, ddi-sigl, a thrugaredd diderfyn Duw.