Mae’n rhaid i’r Eglwys “ailymdrechu” i ddiogelu pobol rhag camdriniaeth, yn ôl y Parchedig Ganon Aled Edwards, fu’n siarad â golwg360 yn sgil ymddiswyddiad Archesgob Caergaint.

Mae Justin Welby wedi cyhoeddi ei fod am gamu o’r neilltu ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Eglwys Loegr yn ymwybodol o honiadau o gamdrin rhywiol gan y bargyfreithiwr John Smyth mor bell yn ôl â 2013, ond nad oedd yr heddlu wedi cael gwybod.

Ar ôl i adroddiad i’r mater gael ei gyhoeddi’n ddiweddar, roedd yn mynnu na fyddai’n camu o’r neilltu, ond mae bellach wedi gwneud tro pedol, gan gyfaddef mewn un cyfweliad ei fod yn “analluog” ond gwadu ei fod e wedi celu gwybodaeth.

Yn ôl y Parchedig Ganon Aled Edwards, mae’r sefyllfa’n “drychineb mawr”.

“Mae o’n bwysig y bod ni’n cymryd camau yn gyflym pan mae pethau fel yma yn digwydd, a bod rhywun yn cymryd cyfrifoldeb,” meddai wrth golwg360.

Yn ei ddatganiad yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Justin Welby ei bod hi’n “glir iawn fod rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb personol a sefydliadol” am yr oedi rhwng 2013 a 2024.

Y Parchedig Ganon Aled Edwards

‘Angen parchu’r penderfyniad’

Dywed Aled Edwards fod yn rhaid “parchu’r penderfyniad” gan Justin Welby i ymddiswyddo.

“Mae o’n amlwg fod yr Archesgob yn teimlo ei fod o wedi gwneud yr hyn sydd yn iawn, a dw i’n credu mai’r unig beth fedrwn ni wneud rŵan ydi parchu’r penderfyniad hwnnw, ac ailymdrechu fod pobol yn ddiogel yn ein gofal ni,” meddai.

Ychwanega ei bod hi’n amlwg fod y sefyllfa “wedi peri niwed” i Eglwys Loegr, “ond mae o fewn gallu’r Eglwys yn Lloegr i sicrhau bod pobol yn ddiogel”.

Mae prosesau Eglwys Lloegr i fynd i’r afael â chyhuddiadau o ymosodiadau rhyw wedi bod dan y chwyddwydr ers i Adolygiad Makin gael ei gyhoeddi ddechrau’r wythnos hon.

Yn ôl Aled Edwards, dylai’r un drefn gael ei dilyn o fewn pob math o feysydd proffesiynol, “fel newyddiaduraeth, addysg, lle bynnag mae [camdriniaeth] yn digwydd; mae yna wersi i’w dysgu.”

‘Pwysig diogelu pobol fregus’

Dywed Aled Edwards na ddylai’r hyn sydd wedi digwydd yn Eglwys Loegr amharu ar benderfyniad pobol i arddel eu ffydd.

“Profiad mwyafrifol pobol o unrhyw gymuned ffydd ydi eu bod nhw’n cael eu hategu a’u cryfhau yno,” meddai.

“Dw i wedi cael trafodaeth sawl gwaith efo pobol wyneb yn wyneb sydd wedi dioddef camdriniaeth, ac mae rhywun yn eu credu nhw, maen nhw’n eu parchu nhw, a rhoi gofal o’u cwmpas nhw.

“Ar ddiwedd y dydd, nid enw da’r cymunedau ffydd sydd yn cyfrif fwyaf, ond diogelu’r bobol fregus.”

Yn unol â’r drefn arferol, bydd Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn derbyn dau enw gan Gomisiwn Penodiadau’r Goron ac yn dewis enwebu un o’r enwau.

Bydd y Comisiwn wedyn yn pleidleisio ar y penderfyniad.

Does dim amserlen bendant o ran pryd fydd hyn i gyd yn digwydd eto.