Roedd penodi Cennad y Gwledydd a’r Rhanbarthau’n “sarhad” ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Sue Gray wedi gwrthod y swydd.

Cafodd swydd cynrychiolydd llywodraethau datganoliedig y Deyrnas Unedig ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei chynnig i Sue Gray fis diwethaf (Hydref 6), yn sgil diswyddo’r gweinidog sifil o’i rôl yn Bennaeth Staff Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn dilyn sïon am anghydfod rhyngddi hi a Morgan McSweeney, rheolwr ymgyrchu’r Blaid Lafur.

Bryd hynny, dywedodd Sue Gray ei bod hi wedi derbyn y swydd.

Fodd bynnag, doedd hi ddim yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau ar Hydref 11, fel roedd nifer yn disgwyl iddi fod.

Heddiw, mae’n ymddangos bod Sue Gray wedi gwrthod y swydd ar ôl oedi am chwe wythnos cyn gwneud penderfyniad.

Mae ffynonellau sy’n agos at y gweinidog sifil yn dweud ei bod hi’n pryderu na fyddai digon o rym na mynediad ganddi at y Prif Weinidog er mwyn medru cyflawni dyletswyddau’r rôl.

‘Swydd ffug’

Dywed Liz Saville-Roberts fod y newyddion wedi cadarnhau ei hamheuon blaenorol mai modd o daflu Sue Gray i’r neilltu oedd ei phenodi’n gennad ar y gwledydd a’r rhanbarthau.

“Roedd ‘cennad y gwledydd a’r rhanbarthau’ wastad yn swydd ffug wedi’i chreu gan Keir Starmer fel dyfais i ddatrys problemau mewnol y Blaid Lafur,” meddai ar X (Twitter gynt).

“Mae’r holl bennod hon wedi bod yn sarhad ar Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.”