Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi clywed bod pobol ag anableddau fwy na £2,100 yn waeth eu byd yn ariannol bob blwyddyn na’u cydweithwyr sydd heb anableddau, gyda menywod yn wynebu ergyd ddwbwl drwy wynebu gwahaniaethu yn eu herbyn yn y gwaith.
Cyflwynodd Rhianydd Williams, llefarydd Cyngres Undebau Llafur (TUC) Cymru, dystiolaeth gerbron Pwyllgor Cydraddoldeb y Senedd fel rhan o ymchwiliad i anableddau a chyflogaeth.
Dywedodd wrth y pwyllgor fod y corff wedi amcangyfrif bwlch cyflog o £1.16 yr awr neu – ar sail wythnos waith 35 awr – £2,111.20 y flwyddyn.
Esboniodd fod y bwlch hyd yn oed yn lletach i fenywod, gan alw am adroddiadau gorfodol ar y bwlch cyflog anableddau, ac am fwy o ffocws ar groestoriadedd.
Pwysleisiodd mai Tachwedd 7 oedd diwrnod bwlch cyflog anableddau – y diwrnod mae gweithwyr cymedrig ag anableddau, i bob pwrpas, yn stopio ennill arian o gymharu â’u cydweithwyr heb anableddau.
‘Gwahaniaethu’
Rhybuddiodd Jenny Rathbone, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, fod menywod ag anableddau’n wynebu “ergyd ddeufin gwahaniaethu” yn y gweithle.
Dywedodd Rhianydd Williams, swyddog cydraddoldeb a pholisi TUC Cymru, fod cael mynediad at addasiadau rhesymol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn rhwystr mawr o hyd.
Galwodd am gyfyngiadau amser a system basbortau er mwyn cadw cofnod byw o addasiadau sydd wedi’u cytuno rhwng gweithwyr a chyflogwyr.
Dywedodd mai cyflogwyr sy’n aml yn cael y gair olaf ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn ‘rhesymol,’ a dydy rhai ddim yn cyllidebu ar gyfer addasiadau o gwbl.
“Yn aml bydd pobol yn gadael y gweithle: mi fyddan nhw’n profi gwahaniaethu ac yn gadael,” meddai.
‘Annerbyniol’
Cyfeiriodd Rhianydd Williams at enghreifftiau o ganghennau’n cyflwyno cwynion er mwyn sicrhau bod cyfleusterau sylfaenol fel toiledau ar gael yn y gweithle.
Wedi i rywun holi am dasglu hawliau anableddau Llywodraeth Cymru, dywedodd fod cynnydd wedi bod yn araf, a’i bod hi wedi gobeithio y byddai cynllun gweithredu yn ei le erbyn hyn.
Clywodd y pwyllgor gan Dee Montague-Coast, swyddog ymgysylltu’r elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru, ei bod hi’n aml yn gweithio yn ei phyjamas o’i gwely sydd wedi cael ei addasu ar ei chyfer.
“Mewn gweithleoedd o’r blaen, byddai pethau felly wedi cael eu gweld yn hollol annerbyniol neu ‘ddim cweit yn iawn’,” meddai.
“Felly, fel cymdeithas ehangach, dw i’n credu bod eithaf tipyn gennym ni i’w wneud er mwyn normaleidddio profiadau fel fy rhai i.”
Galwodd am un lleoliad penodol lle byddai modd cael cefnogaeth, a dull ‘dim drysau anghywir’ am fod pobol ag anableddau’n ei chael hi’n anodd yn weinyddol i fynd i’r afael â systemau gwahanol.
‘Anobaith’
Dywedodd Dee Montague-Coast, oedd wedi wynebu oedi am ddegawdau cyn cael diagnosis endometriosis, fod pobol wedi cael eu trin yn ofnadwy gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf.
“Dw i’n credu bod anobaith gan bobol ag anableddau, gan gyrff a sefydliadau pobol ag anableddau, eu bod nhw’n cael eu heithrio o sgyrsiau… a phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud amdanyn nhw.”
Fe wnaeth Dee Montague-Coast feirniadu’r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan am barhau â diwygiadau sy’n ceisio tynhau asesiadau gallu gwaith.
“Mae’n rhaid i ni dderbyn bod yna bobol ag anableddau sydd methu gweithio, na ddylai neb ddisgwyl iddyn nhw geisio canfod gwaith,” meddai.
“Ond mae’r bobol hynny’n mynd i fod hyd at £5,000 yn waeth eu byd.”
Ychwanegodd fod ein cymdeithas yn tueddu i weld anableddau fel pethau sydd un ai’n ein hysbrydoli neu sy’n drasiedi llwyr, gan rybuddio nad yw anableddau ‘cudd’ yn gymwys i’r naratif cul hwnnw.
‘Chwynnu’
Dywedodd Angharad Dean fod cyflogwyr newydd wedi bod yn fwy parod i gynnig cynlluniau gweithio o adref yn ystod y pandemig, ond fod y hyblygrwydd hwnnw wedi encilio wrth i’r byd ailagor.
Esboniodd y fam newydd, sydd wedi’i chofrestru’n ddall ac sy’n defnyddio ci tywys, ei bod hi wedi bod yn chwilio am waith ond heb fod wedi medru dod o hyd i ddim.
Rhybuddiodd fod pobol anabl yn parhau i gael eu “chwynnu” o’r broses geisiadau, sy’n golygu bod cymaint o bryder gan nifer fel nad ydyn nhw’n fodlon datgan eu hanhwylderau.
Dywedodd wrth y pwyllgor ei bod wedi gorfod aros chwe mis er mwyn derbyn cefnogaeth dan system Mynediad i Waith – cynllun ledled y Deyrnas Unedig sy’n cynnig grantiau – yn ei rôl blaenorol.
Dywedodd wrth y cyfarfod ar Dachwedd 11 ei bod hi’n “byw mewn dyled am gymaint o amser nad oedd unrhyw arian gen i hyd yn oed ar ôl derbyn fy nhâl ar ddiwedd pob mis”.