Gallai cwmni rheilffyrdd Avanti West Coast golli’u rhyddfraint os nad yw eu gwasanaethau ar arfordir y gogledd yn gwella.
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y Deyrnas Unedig yn dweud y gallai’r cwmni ddod dan berchnogaeth cyhoeddus yn gynt na’r disgwyl os na fydd pethau’n newid.
Mae mwy o drenau rhwng gogledd Cymru a Llundain yn cael eu canslo nag ar unrhyw siwrne arall gan Avanti West Coast, medd ystadegau diweddaraf y cwmni.
Mae’r ffigurau’n dangos bod 20% o drenau’n cael eu canslo ar y diwrnod gan y cwmni yn y gogledd yn gynharach eleni.
Mae Llywodraeth Llafur y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw eisiau gwladoli’r rheilffyrdd pan fydd rhyddfreintiau’r cwmniau’n dod i ben.
‘Gwylio efo llygaid barcud’
Wrth godi’r mater, fe wnaeth Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, alw ar Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r problemau gyda’r gwasanaeth.
Yn ei hymateb, dywedodd Louise Haigh y gallai Avanti golli’u rhyddfraint – sy’n rhedeg tan 2026 – a dod dan berchnogaeth gyhoeddus os nad yw eu perfformiad yn gwella.
“Mae fy marn i ar berfformiad Avanti yn hysbys, dw i’n meddwl,” meddai, gan ddweud nad yw’r perfformiad wedi bod yn dderbyniol.
“Er mawr syndod, yn sgil y ffordd gafodd cytundebau rheilffyrdd cenedlaethol eu hysgrifennu dan y Llywodraeth ddiwethaf, dydy Avanti heb fethu.
“Maen nhw ar gynllun adfer i yrru gwelliannau, ac rydyn ni wedi gweld cynnydd bychan yn nifer y trenau sydd ar amser, ond mae ganddyn nhw ffordd bell i fynd.
“Rydyn ni’n gwylio Avanti gyda llygaid barcud er mwyn gwneud siŵr, os ydyn nhw’n methu, y gallan nhw ddod dan berchnogaeth gyhoeddus ar unwaith.”
Ledled y Deyrnas Unedig, rhwng Ebrill a Mehefin eleni, cafodd mwy o drenau Avanti West Coast eu canslo nag unrhyw gwmni arall (7.8%).
‘Haeddu sicrwydd’
Ychwanega Liz Saville Roberts fod trenau’n cael eu canslo rhwng gogledd Cymru a Llundain yn amharu’n sylweddol ar deithwyr, a bod trenau hwyr yn gwaethygu’r sefyllfa.
“Mae Prif Lein Gogledd Cymru yn lein economaidd bwysig, yn cysylltu’r porthladd rhwng Caergybi gyda gweddill rhwydwaith rheilffyrdd y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae hi hefyd yn gwasanaethu Prifysgol Bangor, yn dod â myfyrwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i astudio yng ngogledd-orllewin Cymru.
“Mae’n warth fod y daith yn cael ei rhedeg i’r llawr gan weithredwr anfedrus.
“Mae pobol yn haeddu cael sicrwydd a hyder bod eu trên nhw am gyrraedd ar amser neu o leiaf droi fyny.
“Er fy mod i’n cydnabod y buddsoddiad diweddar a hirddisgwyliedig mewn trenau newydd, gwell ar y lein rhwng Caergybi a Llundain, mae teithwyr ledled gogledd Cymru’n parhau i orfod dioddef trenau llawn, cyfathrebu gwael ac amser teithio hirach.
“Mae’r amharu parhaus yn ddrwg i fusnes ac i economi twristiaid gogledd Cymru.”