Mae cyfradd diweithdra Cymru wedi cynyddu eto i 5.3% dros y chwarter hyd at fis Medi.
Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod diweithdra wedi cynyddu 1.5% yn ystod y chwarter.
70% ydy cyfradd cyflogaeth Cymru, sydd 2.8% yn is nag yr oedd yr adeg hon y llynedd, ond 1.2% yn uwch na’r chwarter blaenorol.
Y cyfartaledd cyflogaeth dros y Deyrnas Unedig ym mis Medi oedd 74.8%, tra bo’r gyfradd diweithdra yn 4.3%.
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae cyfradd cyflogaeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn uwch nag un Cymru, oni bai am un cyfnod byr yn 2018.
Ym mis Medi, roedd cyfradd y segurdod economaidd yng Nghymru’n 25.9% – 2.5% yn is na’r chwarter cynt.
‘Symud yn y cyfeiriad anghywir’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymateb i’r ystadegau, gan ddweud eu bod nhw’n symud i’r cyfeiriad anghywir ac, yn fwy na hynny, yn cynrychioli pobol ledled Cymru sy’n colli’u bywoliaethau.
“Mae’n amlwg fod diweithdra wedi cynyddu’n raddol gyda Llafur mewn grym ar ben arall yr M4, ac mae hyn yn digwydd hyd yn oed cyn i drethi difetha swyddi Keir Starmer ddechrau effeithio ar fusnesau,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi.
“Gyda’r Ceidwadwyr Cymreig, byddai Cymru ar agor i fusnesau, gan gefnogi busnesau bach gyda mesurau pendant fel toriadau i gyfraddau busnes a rhaglenni sbarduno i yrru twf a chreu’r swyddi mae Cymru wir eu hangen.
“Yn anffodus, mae Llafur yn sefyll yn y ffordd.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.