Mae cyn-ymgynghorydd arbennig i Tony Blair a Gordon Brown, dau o gyn-Brif Weinidogion Llafur y Deyrnas Unedig, wedi awgrymu y dylai Llywodraeth San Steffan “wneud i’r ffermwyr yr hyn wnaeth Margaret Thatcher i’r glowyr”.
Mewn cyfweliad ar GB News, dywedodd John McTernan fod amaeth yn “ddiwydiant y medrwn ni wneud hebddo”.
Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y sylwadau’n “warthus”.
Cynllun Ffermio Cynaliadwy a heriau eraill
Mae’r heriau mae ffermwyr yn eu hwynebu wedi bod yn bwnc llosg yng Nghymru ers i Lywodraeth Cymru gyflwyno’u cynnig am Gynllun Ffermio Cynaliadwy.
Bydd y cynllun hwn, sydd bellach i’w weithredu erbyn 2026, yn asesu maint y cymhorthdal fydd ffermwyr yn ei dderbyn ar sail defnyddio’u tir mewn modd cynaliadwy.
Ym mis Chwefror, aeth ffermwyr Cymru ati i brotestio yn erbyn y cynnig.
Daeth sylw pellach i drafferthion y diwydiant amaeth wedi’r Gyllideb fis diwethaf, pan gyhoeddodd y Llywodraeth Lafur yn San Steffan y bydd yn rhaid i berchnogion asedau ffermio gwerth dros £1m dalu treth etifeddiaeth o 20% o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Mae ymgyrchwyr yn honni y bydd y dreth yn fygythiad angeuol i nifer o ffermydd teuluol bychain.
Ond mae’r Llywodraeth Lafur wedi awgrymu mai gorddweud ydy’r rhybuddion hyn.
Aeth John McTernan gam ymhellach ar raglen Patrick Christys ar GB News.
“Yn bersonol, os ydyn nhw am brotestio yn y strydoedd, yna dw i o blaid gwneud i’r ffermwyr yr hyn wnaeth Margaret Thatcher i’r glowyr,” meddai.
“Mae’n ddiwydiant fedrwn ni wneud hebddo.
“Os yw pobol wedi’u digio gymaint eu bod nhw am daflu slyri ar hyd y strydoedd, yna does dim angen y ffermwyr bychain arnon ni.”
‘Adlewyrchu agweddau nifer o bobol yn y Blaid Lafur’
Dywed Andrew RT Davies fod y sylwadau’n “warthus, ond, yn anffodus, yn adlewyrchu agweddau nifer o bobl yn y Blaid Lafur”.
“Mae’n amlwg fod agenda wrth-ffermwyr yn ffrynt newydd yn y rhyfel dosbarth i nifer o bobol ar y chwith,” meddai.
“Mae ffermwyr yn cael eu cosbi am beidio â rhannu’r un feddylfryd fetropolitan â’r rheiny yn Llundain a’r dinasoedd mawr eraill.”
Mae rhagolygon y llywodraethau Llafur yng Nghymru ac yn San Steffan yn dal i awgrymu na fydd ffermwyr yn cael eu heffeithio gymaint ag y mae ymgyrchwyr wedi rhybuddio.