Mae Plaid Cymru wedi gofyn i gwmni papurau newydd Reach, sy’n berchern ar deitlau megis y Western Mail a’r Daily Post, i ystyried peidio â thorri swyddi, gan rybuddio mai “cam yn ôl” fyddai rhannu cynnwys o Loegr nad yw’n berthnasol i Gymru.

Mae Siân Gwenllian, llefarydd diwylliant y blaid, wedi ysgrifennu at y prif swyddog gweithredol yn sgil pryderon y gallai hanner staff y cwmni sy’n gweithio yng Nghymru golli eu swyddi wrth gyfuno adrannau fyddai’n pontio Cymru a rhai o siroedd Lloegr.

Mae 70 a mwy o swyddi’r cwmni yn y fantol yng Nghymru.

Fe fydd 25 aelod o staff Newsquest hefyd yn colli eu swyddi, a’r disgwyl yw y bydd 60 o swyddi’n diflannu yn BBC Cymru.

‘Adlewyrchu gwerthoedd ein cenedl’

“Fel aelod o’r NUJ, rwy’n cydnabod pwysigrwydd gwasg a chyfryngau penodol Gymreig, wrth adlewyrchu gwerthoedd ein cenedl ac wrth ddwyn deddfwriaethwyr i gyfrif,” meddai Siân Gwenllian.

“Mae amseru’r cyhoeddiad hwn yn ergyd niweidiol i’r unigolion dan sylw yn ystod yr hyn oedd eisoes yn gyfnod pryderus, ac mae’n agor yr agendor yn yr hyn oedd eisoes yn ddiffyg democrataidd.

“Rwan yn fwy nag erioed, dylai adrodd ar ddatganoli a lle mae’r grym i wneud penderfyniadau fod yn flaenoriaeth i bob cwmni cyfryngau.

“Dylid osgoi unrhyw benderfyniad sy’n amharu ar y gallu i wneud hynny neu’n ei fygwth ar bob cyfri.

“Byddwn felly yn gofyn eich bod chi’n ailystyried cynigion a fyddai’n gwanhau’r capasiti sydd gan Reach ar hyn o bryd yng Nghymru.

“Yn wir, mae’r pandemig coronafeirws wedi tanlinellu bod gan bobol Cymru fwy o awch i gael eu hysbysu am benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru.

“Byddai dibynnu ar rannu cynnwys sy’n cael ei greu yn Lloegr a fyddai ag ychydig iawn o berthnasedd neu ddim perthnasedd o gwbl i Gymru’n gam mawr yn ôl.

“Dim ond â gweithlu o faint digonol y mae modd cynnal papur newydd gwirioneddol genedlaethol sy’n adlewyrchu cyfoeth amrywiol bywyd yng Nghymru.

“Mae hyn yn hanfodol er mwyn rhoi sylw i bob mater a phob rhan o’n cenedl.”