Mae’r heddlu wedi cyhoeddi gorchymyn gwasgaru yn ardal Bae Caerdydd ar ôl i dorfeydd ymgasglu yno neithiwr (nos Sadwrn, Gorffennaf 11).

Mae’r gorchymyn yn rhoi’r hawl i’r heddlu ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Roedd sawl digwyddiad yn yr ardal neithiwr, a chafodd nifer o bobol eu harestio am fod yn feddw ac ymddwyn yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Dywed yr heddlu y byddan nhw’n aros yn yr ardal am y tro er mwyn ymateb i unrhyw ddigwyddiadau sy’n codi.

Yn ôl y gorchymyn, gall pobol gael eu gwahardd rhag mynd i’r ardal am hyd at 48 awr, a bydd modd i’r heddlu hefyd dynnu alcohol oddi ar bobol os ydyn nhw’n ymddwyn mewn modd anghyfreithlon.