Mae oddeutu 200 o weithwyr fferm yn Sir Henffordd dan gwarantîn ar ôl i 73 brofi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.

Mae fferm deuluol AS Green & Co ym mhentref Mathon yn cynhyrchu llysiau.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr, maen nhw a’r Cyngor Sir yn gofyn i’r gweithwyr aros ar y fferm wrth iddyn nhw ynysu.

Mae’r gweithwyr yn byw mewn cartrefi symudol yn ystod y tymor cynaeafu ac maen nhw i gyd yn cael eu trin fel aelwyd estynedig.

Mae’r Cyngor wrthi’n trefnu bod bwyd a nwyddau hanfodol yn cael eu hanfon i’r gweithwyr ar y safle.

Daw’r achosion er gwaetha’r mesurau mae’r fferm wedi’u defnyddio i reoli heintiau yn sgil faint o weithwyr sy’n gweithio ar y safle.

Bydd y rhai sydd wedi profi’n bositif yn ynysu am saith diwrnod, tra bydd y rhai maen nhw wedi dod i gysylltiad â nhw’n ynysu am 14 diwrnod.

Mae’r holl weithwyr ar y safle bellach wedi cael profion.

Datganiad

Dywed y fferm mewn datganiad ar eu gwefan fod y safle ar gau i ymwelwyr, ac nad oes gan unrhyw weithiwr yr hawl i adael am y tro.

“Ein gweithlu a’r gymuned leol yw ein blaenoriaeth ar yr adeg anodd hon, ac rydym yn parhau i ddilyn canllawiau’r cyrff perthnasol er mwyn sicrhau bod ymlediad y coronafeirws yn cael ei reoli a bod ein gweithlu’n derbyn cefnogaeth,” meddai’r datganiad.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cynghori ei bod yn annhebygol iawn y gellir trosglwyddo Covid-19 trwy fwyd neu becynnau bwyd, felly gall siopwyr barhau’n hyderus wrth brynu ffrwythau a llysiau Prydeinig.”

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn annog unrhyw un sy’n cael symptomau i gael prawf.