Mae Nicola Sturgeon yn dweud nad yw hi’n ofni rhoi ymwelwyr o Loegr dan gwarantîn, ond na fyddai’n benderfyniad hawdd ychwaith.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar y BBC fod rhaid i wledydd Prydain gydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r coronafeirws mewn ffordd sy’n “gwneud yn iawn am fethu â rhoi unrhyw gyfyngiadau ffiniau yn eu lle”.

Does dim “cynllun ar unwaith” i gyflwyno cwarantîn, meddai, ond mae’n dweud ei bod hi’n barod i wneud penderfyniadau “er mwyn gwarchod iechyd yr Alban” ac er mwyn sicrhau nad yw’r feirws yn dod i mewn i’r wlad o wledydd eraill Prydain.

“Nid mater yw hyn o ddweud wrth bobol yn Lloegr ‘Does dim croeso i chi yn yr Alban’ – wrth gwrs fod croeso i bobol yn Lloegr i’r Alban,” meddai.

“Nid mater o wleidyddiaeth yw hyn, nid mater o agenda gyfansoddiadol yw hyn, mae’n fater o wneud penderfyniadau i warchod pobol yr Alban cymaint â phosib rhag Covid.”

Rheoli’r haint

Dywed Nicola Sturgeon fod angen sicrhau bod unrhyw achosion o’r feirws yn Lloegr “yn cael eu rheoli’n gywir” – ond fod hynny’n wir o safbwynt yr Alban hefyd.

“Pan fo diffyg hyder mae’r pryderon am gludo posib yn tyfu,” meddai.

Ond mae’r Alban hefyd wedi bod dan y lach am adael i bobol o gartrefi gofal adael yr ysbyty heb brofion yn gynharach yn yr ymlediad.

Mae 46% o holl farwolaethau’r Alban yn sgil y feirws yn ymwneud â chartrefi gofal, yn ôl ystadegau swyddogol.

Mae Nicola Sturgeon eisoes wedi ymddiheuro am y sefyllfa, gan ddweud ei bod hi’n ei difaru, ond mae’n gwrthod yr awgrym nad oedd yr Alban wedi bod yn ddigon gofalus.

Yn wir, mae’r gefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban wedi tyfu i 54% yn ystod y pandemig, er bod Llywodraeth yr Alban yn parhau i fynnu mai mynd i’r afael â’r feirws, ac nid annibyniaeth, yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd.

Wfftio’r Deyrnas Unedig

Yn y cyfamser, mae Nicola Sturgeon wedi wfftio sylwadau Rishi Sunak am gryfder y Deyrnas Unedig fel “nonsens”.

Dywed Canghellor San Steffan mai dim ond oherwydd y Deyrnas Unedig mae cymorth ariannol ar gyfer y coronafeirws ar gael.

“Mae’r math yma o bwyntiau nonsens, yn blwmp ac yn blaen, yn rhai i’w edifar ac maen nhw’n warthus, yn enwedig yn sgil difrifoldeb yr hyn rydyn ni’n ei wynebu,” meddai.