Mae swyddi dros 70 o newyddiadurwyr yn y fantol yn Media Wales, sy’n cyhoeddi’r Western Mail, y South Wales Echo a WalesOnline, yn ôl undeb yr NUJ.

Daw hyn ar ôl i gwmni Reach, sydd berchen ar Media Wales, yn ogystal â’r y Daily Mirror a’r Daily Express, ddweud eu bod angen torri oddeutu 12% o’i weithlu wrth geisio arbed hyd at £35m y flwyddyn a chanoli ei wasanaethau.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni:

“Mae Reach yn parhau i ymgynghori â chydweithwyr ac undebau llafur ynghylch y newidiadau arfaethedig sy’n destun cyfnod ymgynghori statudol o isafswm o 45 diwrnod.

“Mae’r pandemig wedi effeithio’n sylweddol o ran hysbysebu lleol, felly mae angen y newidiadau hyn [a’r nod yw] gweithredu’n fwy effeithlon i ddiogelu newyddiaduraeth leol a’n brandiau newyddion ar gyfer y tymor hir.”

Mae aelodau’r NUJ lleol bellach wedi pasio pleidlais o ddiffyg hyder yn uwch-weithredwyr y cwmni.

Dywedodd Martin Shipton, cadeirydd cangen leol yr undeb: “Mae [y staff] wedi rhoi popeth yn ystod y pandemig i gynhyrchu cynnwys o safon ar gyfer print ac ar-lein, ond […] dydyn nhw ddim wedi cael gwybod faint ohonyn nhw [fydd yn gorfod gadael].

“I roi halen ar y briw, maent wedi cael gwared ar ein Prif Olygydd ac mae Media Wales yn cael ei gyfuno ag adran Reach yng nghanolbarth Lloegr […] Mae yna gynlluniau, hefyd, nad ydyn nhw wedi cael eu hesbonio’n fanwl, sy’n golygu integreiddio’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn Media Wales gyda’r papurau “Cenedlaethol” yn Llundain.”

Mae’r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi galw’r newyddion yn “farwolaeth Media Wales”.