Mae pryderon am ddyfodol nifer o bapurau newydd yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad cwmni Reach eu bod nhw am dorri 550 o swyddi ar draws y cwmni.

Mae perchnogion y Daily Mirror a’r Daily Express hefyd yn berchen ar y Western Mail, y Daily Post, y South Wales Echo a’r South Wales Evening Post.

Ond maen nhw wedi gweld cwymp sylweddol yn eu refeniw gwerthiant a hysbysebion yn sgil y coronafeirws.

Mae’r cwmni’n torri oddeutu 12% o’i weithlu wrth geisio arbed hyd at £35m y flwyddyn, gan geisio cwmpasu’r holl deitlau cenedlaethol a rhanbarthol mewn un adran olygyddol, gan ganoli ei wasanaethau a symleiddio rheolaeth o’r cwmni.

Mae lle i gredu y bydd 325 o swyddi’n mynd o’r adrannau golygyddol a chylchredeg.

Ond bydd toriadau dros dro yng nghyflogau’r staff yn dod i ben, ac eithrio penaethiaid ac aelodau’r bwrdd, gyda’r bwriad o fuddsoddi mwy o arian mewn gweithrediadau digidol wrth i fwy o wasanaethau fynd ar-lein.

Colledion

Fe wnaeth Reach golledion refeniw o 27.5% yn ystod y chwarter hyd at Fehefin 28.

Yn sgil hynny, mae cyfrannau wedi gostwng hyd at 16%.

Dywed y cwmni y bydd yr holl staff yn cael eu trin “yn deg ac mewn modd parchus” yn ystod yr ymgynghoriad sydd i ddod.

Roedd cwymp o 4.9% yn y gwerthiant digidol ym mis Mehefin, tra bod refeniw print i lawr 26.7%.

Mae’r cwmni’n gobeithio cofrestru hyd at 10 miliwn o bobol erbyn 2022, ar ôl bwrw’r targed o 2.5 miliwn ar gyfer eleni.

Mae gan y cwmni fwy na 70 o wefannau newyddion, chwaraeon ac adloniant.