Mae dyn wedi cael ei garcharu am bum mlynedd ar ôl cyfaddef iddo ddangos ei hun yn anweddus i ddwy ferch fach a meddu ar ddelweddau anweddus o blant, a’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar blentyn.
Daeth Jamie Harris o Ddinas Powys ym Mro Morgannwg i sylw’r heddlu fis Mawrth y llynedd ar ôl i ferch saith oed, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol, ddatgelu bod y dyn 40 oed wedi ei chyffwrdd yn amhriodol.
Dechreuodd swyddogion arbenigol ymchwilio i honiadau’r plentyn, ac fe gawson nhw wybod yn fuan fod y cam-drin wedi digwydd ar sawl achlysur.
Yn ystod yr ymchwiliad, llwyddodd swyddogion i gysylltu Jamie Harris ag adroddiad o westy’r Vale fod dyn wedi dangos ei hun yn anweddus yn y pwll nofio, a daethpwyd o hyd i offer electronig oedd yn perthyn iddo oedd â ddelweddau anweddus o blant.
Dyfarnu’n euog
Yn ystod gwrandawiad cynharach yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd Jamie Harris yn euog i feddu ar ddelweddau a dinoethi anweddus.
Gwadodd ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blentyn, ond cafwyd e’n euog yn dilyn achos oedd wedi para pedwar diwrnod yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd ei ddedfrydu heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 7) i bum mlynedd o garchar, gyda phum mlynedd ychwanegol ar drwydded, a’i wneud yn destun gorchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol.
Bydd e hefyd ar y Gofrestr Troseddwyr Rhyw am weddill ei oes.
Dewr
Mae’r Ditectif Gwnstabl Rachel Hope-Williams, wedi canmol dewrder y dioddefwyr ifanc am adrodd am weithredoedd Jamie Harris.
“Roedd y dioddefwyr yn yr achos hwn yn ifanc ac wedi’u drysu gan ymddygiad Harris ac – yn enwedig yn achos un o’r dioddefwyr – fe wnaeth ecsbloetio’r naïfrwydd hwnnw i ennill ei hymddiriedaeth, bodloni ei hun a cheisio osgoi cael ei ddal,” meddai.
“Mae hi wedi bod yn hynod ddewr wrth siarad am yr hyn ddigwyddodd iddi, ac rwy’n gobeithio bod y ddedfryd heddiw yn dod â rhywfaint o ddiweddglo iddi hi a’i theulu wrth iddyn nhw geisio dechrau ailadeiladu eu bywydau.”