Bydd Llywodraeth Cymru yn gohirio’r broses o gategoreiddio ysgolion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21, fel rhan o’i mesurau i leihau’r pwysau ar ysgolion yn ystod y pandemig Covid-19.

Bob blwyddyn, caiff ysgolion cynradd ac uwchradd eu mesur yn erbyn ystod o ffactorau a’u rhoi mewn un o bedwar categori lliw.

Coch– ysgolion sydd angen y cymorth a’r arweiniad mwyaf

Oren – y rhai sy’n gwneud yn dda ond a allai fod yn gwneud yn well

Gwyrdd – y rhai sy’n effeithiol iawn ac sy’n gallu cefnogi ysgolion eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r arolygiaeth ysgolion, Estyn, a nifer o ysgolion i dreialu Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol, yn ogystal â chynllun peilot aml-asiantaethol i gefnogi nifer o ysgolion sy’n peri pryder.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae paratoadau’n cael eu gwneud ar gyfer pryd y gall y gwaith hwnnw barhau.

Amgylchiadau anodd

“Rwy’n cydnabod bod ysgolion yn gweithredu dan amgylchiadau anodd ar hyn o bryd,” meddai Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg.

“Fy mlaenoriaeth i yw caniatáu i staff ganolbwyntio eu hegni ar anghenion disgyblion yn ystod y cyfnod anghyffredin a heriol hwn.

“Rwyf wedi ymrwymo i helpu i leihau’r baich gweinyddol ar leoliadau addysg, lle bo hynny’n briodol ac yn ddiogel.

“Rwyf wedi llacio’r gofynion dros dro i gynnal profion ac asesiadau cenedlaethol a hefyd wedi gweithio gyda Estyn i ohirio ei drefniadau arolygu.

“Bydd y camau hyn yn helpu ysgolion i barhau â’r gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud i gefnogi eu dysgwyr.”

Undebau’n croesawu’r cyhoeddiad

Mae David Evans, Ysgrifennydd NEU Cymru, wedi croesawu penderfyniad Kirsty Williams i atal system gategoreiddio genedlaethol ysgolion.

“Bydd Aelodau NEU Cymru yn falch o glywed bod categoreiddio ysgolion wedi’i ohirio am eleni,” meddai.

“Bydd hynny’n newyddion i’w groesawu, oherwydd bydd ysgolion yn awyddus i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar les plant a staff fel ei gilydd, wrth iddyn nhw ddechrau gwneud paratoadau cyn mis Medi.

“Mae’n bwysig mai diogelwch yw’r  ffocws cyn mis Medi.

“Wrth gwrs, rydyn ni eisiau i bawb fod yn ôl yn yr ysgol cyn gynted â phosib. Ond ni fydd yn bosibl agor ysgolion yn fwy eang heb ymgymryd â staff ychwanegol – o’r rhai sydd wedi gadael y proffesiwn i’r rhai sy’n newydd i ddysgu.

“Dylai hyn helpu i sicrhau bod y rhai sy’n fregus, neu’n ynysu, yn gallu cefnogi dysgu o gartref. Gallai defnyddio adeiladau cyhoeddus hefyd helpu i gadw pobl yn ddiogel a sicrhau gwell ymbellhau cymdeithasol. ”