Daeth cadarnhad y bydd cartref gofal Penrhos, sy’n darparu gofal i gleifion Pwylaidd, yn cau.

Adroddodd golwg360 ddydd Sadwrn (Gorffennaf 4) fod ansicrwydd ynghylch dyfodol y cartref.

“Yn dilyn cyfnod hir o ansicrwydd ariannol, rydym yn difaru ein bod wedi gorfod gwneud y penderfyniad i symud tuag at gyfnod o gau cartref nyrsio Penrhos yn raddol ar ôl archwilio’r holl opsiynau eraill,” meddai Kasia Rafalat, aelod o fwrdd y Gymdeithas Dai Pwylaidd.

“Fydd y penderfyniad hwn ddim yn effeithio ar y trigolion yn llety lloches.

“Ein nod erioed oedd canolbwyntio ar warchod lles ein trigolion a’n staff a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu ar gyfer y dyfodol.

“Mae cymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd yn golygu na fydd angen i’r cartref nyrsio gau ar unwaith ac y gallai aros ar agor hyd at Fawrth 2021 ac yn y cyfamser, bydd staff yn cydweithio’n agos efo’r trigolion a’u teuluoedd i gytuno ar yr opsiynau mwyaf addas ar gyfer eu dyfodol.

“Mae PHS yn parhau i gydweithio â Chyngor Gwynedd, y Bwrdd Iechyd a ClwydAlyn i ddatblygu cynllun llawn ar gyfer cau’r cartref nyrsio, gyda’r holl bartneriaid wedi ymrwymo i ddatblygiad tymor hir y safle.”