Mae’n rhaid i’r Canghellor gyhoeddi cynllun sy’n caniatáu cymorth ffyrlo a chymorth busnes i gefnogi cloeon lleol yn ei ddatganiad ariannol ddydd Mercher (8 Gorffennaf), yn ôl Ben Lake.

Dywedodd llefarydd Trysorlys Plaid Cymru y bydd pobol yn wynebu dewis rhwng “gwneud y peth iawn, a rhoi digon o fwyd ar y bwrdd” os ydyn nhw’n cael eu gorfodi i hunan-ynysu mewn cloeon lleol.

Yn y Deyrnas Unedig, dim ond am £95.85 yr wythnos mewn tâl salwch statudol y bydd gweithwyr sy’n hunan ynysu ei dderbyn.

Yn ôl Plaid Cymru mae pryderon y bydd rhai gweithwyr yn cael eu gorfodi i anwybyddu ceisiadau i ynysu gan na fydd y tâl salwch o lai na £100 yn ddigon i gefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio.

Yn ddiweddar yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, tynnodd Liz Saville Roberts sylw at y gweithwyr mewn gwledydd Ewropeaidd eraill sydd yn derbyn 100% o’u cyflog os ydyn nhw’n cael eu gorfodi i ynysu.

Penderfyniadau anodd

“Rydyn ni wedi gweld yn ystod y dyddiau diwethaf bod cloeon lleol yn debygol o ddod yn arfer newydd,” meddai Ben Lake.

“Ni allwch orfodi pobol mewn i glo heb y cymorth ariannol y mae nhw eu hangen – nid yw’n deg, ac yn fwy sylfaenol ni fydd yn gweithio.

“Os yw pobol yn cael eu gorfodi i ynysu eu hunain a thrwy hynny’n dibynnu ar lai na £100 yr wythnos mewn tâl salwch, bydd llawer o bobol yn wynebu penderfyniad anodd rhwng gwneud y peth iawn, a rhoi digon o fwyd ar y bwrdd ar gyfer eu teulu.

“Mae datganiad dydd Mercher yn rhoi cyfle i’r Canghellor fynd i’r afael â’r mater hwn a sefydlu cynllun ffyrlo sydd wedi ei dargedu i sicrhau bod unrhyw waith cloi lleol yn effeithiol.

“Nid yn unig mai dyma’r peth iawn i’w wneud ar ran gweithwyr a’r busnesau, mae hefyd yn hanfodol os yw cloeon lleol i fod yn effeithiol o ran rheoli unrhyw achosion a diogelu iechyd y cyhoedd.”