Cafodd adeiladau o bwys i’r celfyddydau yng Nghymru eu goleuo’n goch neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 6), er mwyn tynnu sylw at dranc y diwydiant yn sgil y coronafeirws.

Yn ôl sylfaenwyr yr ymgyrch Light It In Red, sy’n rhedeg trwy wledydd Prydain, mae perygl na fydd y diwydiant yn goroesi’r 100 diwrnod nesaf gyda “rhan fwya’r diwydiant digwyddiadau heb waith” ers dechrau mis Mawrth.

“Mae pob math o ddigwyddiadau mawr wedi’u hatal ar hyn o bryd o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19,” meddai’r ymgyrch.

“Dydy digwyddiadau corfforaethol, cynadleddau, cyngherddau, gwyliau, priodasau, sioeau masnach a pherfformiadau theatrig ddim bellach yn gallu cael eu cynnal.

“Mae hyn yn gadael diwydiant cyfan yn cysgu, gyda mwy na 25,000 o fusnesau a thros hanner miliwn o weithwyr trwy’r Deyrnas Unedig yn diodde’r sgil effeithiau’n uniongyrchol.”

Cafodd lluniau a fideos eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol neithiwr gan ddefnyddio’r hashnod #LightItInRed, gyda’r trefnwyr yn dweud mai “ni oedd yr cyntaf allan, a ni fydd yr olaf yn ôl i mewn”, gan gyfeirio at gau canolfannau yn sgil y feirws.

Eglurhad y trefnwyr

Wrth ymhelaethu ar yr ymgyrch, dywed y trefnwyr iddyn nhw gael eu hysbrydoli gan yr Almaen, a hynny “am nad oes dyddiad penodol ar gyfer digwyddiadau byw, sioeau, gwyliau a pherfformiadau i ailddechrau ar ôl eu cau i lawr yn sgil Covid-19”.

“Cafodd gweithgarwch #LightItInRed ei ysbrydoli gan #NightofLight yn yr Almaen ar Fehefin 22, a welodd dros 9,000 o adeiladau, cofgolofnau, strwythurau, tyrrau, tirnodau, cestyll, swyddfeydd, tai, gofod a llefydd yn cael eu goleuo mewn ‘Coch Argyfwng’ er mwyn codi ymwybyddiaeth a denu sylw’r cyhoedd a’r llywodraeth,” meddai ymgyrchwyr Light It In Red.

Y sefyllfa yng Nghymru

Mae Llywodraeth Prydain wedi clustnodi £59m ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru, fel rhan o becyn cymorth coronafeirws gwerth £1.57bn.

Ond dydy hi ddim yn glir a fydd y swm hwnnw’n mynd tuag at y celfyddydau, ar ôl i’r prif weinidog Mark Drakeford awgrymu y gallai’r arian gael ei rannu ar draws sawl maes, gan fod gan Lywodraeth Cymru yr hawl i benderfynu sut caiff yr arian ei wario.

Mae lle i gredu na fydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn i Rishi Sunak, canghellor San Steffan, wneud ei ddatganiad haf yfory (dydd Mercher, Gorffennaf 8).

Ac fe ddaw ar ôl i lefarydd ar ran Llywodraeth Cymru dynnu datganiad yn ôl oedd yn dweud y byddai’r arian yn diogelu “nifer sylweddol o swyddi a bywoliaethau yn sector diwylliannol Cymru”.