Mae nifer o dafarndai sydd wedi ailagor eu drysau am y tro cyntaf ddydd Sadwrn (Gorffennaf 4), wedi gorfod cau eto oherwydd bod cwsmeriaid wedi profi’n bositif am y coronafeirws.
Croesawodd bariau Lloegr yfwyr am y tro cyntaf dros y penwythnos ar ôl i’r sector lletygarwch gau ym mis Mawrth.
Ond mae tri sefydliad ers hynny wedi hysbysu eu cwsmeriaid eu bod wedi gorfod cau eto dim ond dyddiau yn ddiweddarach, ar ôl achosion o Covid-19.
Dywedodd y ‘Lighthouse Kitchen and Carvery’ yn Burnham-on-Sea, Gwlad yr Haf, fod cwsmer wedi profi’n bositif a’u bod yn mynd drwy restr o bobol oedd yn y bar ddydd Sadwrn.
“Mae ein staff i gyd yn mynd i gael eu profi a byddwn yn ailagor pan fydd yr amser yn ddiogel i wneud hynny,” meddai datganiad ar Facebook.
Dywedodd y ‘Fox and Hound’ yn Batley, Swydd Efrog, y bydd yn cau ar ôl derbyn galwad gan gwsmer ddydd Llun (Gorffennaf 6), i ddweud eu bod wedi profi’n bositif am y coronafeirws.
Wrth bostio ar ei thudalen Facebook, dywedodd fod yr holl staff wedi cael prawf ers hynny ac ychwanegodd y bydd y dafarn yn cael ei glanhau’n drylwyr ac y byddan nhw’n ailagor pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.
Dywedodd y ‘Village Home Pub’ yn Alverstoke, Gosport, eu bod nhw hefyd “wedi cael achos o’r coronafeirws yn y dafarn”, gan ychwanegu bod “rhai ohonom yn hunanynysu”.
“Mae’r dafarn bellach ar gau ond os bydd popeth yn iawn byddwn yn agor eto ddydd Sadwrn,” meddai datganiad ar Facebook.
“I unrhyw un oedd yn y dafarn dros y penwythnos, nid oes angen ynysu oni bai eich bod yn dangos symptomau neu fod y grŵp olrhain yn cysylltu â chi yn uniongyrchol. Diolch a gobeithio eich gweld yn fuan.”