Mae darparwyr gofal wedi gwrthod sylwadau gan y Prif Weinidog bod “gormod” o gartrefi gofal heb ddilyn gweithdrefnau yn briodol yn ystod pandemig coronafeirws, gan ddweud nad yw ei sylwadau “yn gywir nac yn dderbyniol “.

Dywedodd Boris Johnson fod gwersi’n cael eu dysgu ar ôl iddi ymddangos bod y Llywodraeth yn bwrw’r bai ar gartrefi gofal wrth iddyn nhw ymateb i achos Covid-19.

“Un o’r pethau mae’r argyfwng wedi ei ddangos yw bod angen i ni feddwl am sut rydyn ni’n trefnu ein pecyn gofal cymdeithasol yn well a sut rydyn ni’n sicrhau ein bod yn gofalu am bobl yn well sydd mewn gofal cymdeithasol,” meddai Boris Johnson wrth gael ei holi sut roedd e’n teimlo am y dymuniad i ariannu’r sector gofal cymdeithasol i oedolion o fewn blwyddyn.

“Fe wnaethon ni ddarganfod bod gormod o gartrefi gofal heb ddilyn y gweithdrefnau yn y ffordd y gallen nhw ond rydyn ni’n dysgu gwersi drwy’r amser.

“Y peth pwysicaf yw eu hariannu’n iawn… ond byddwn hefyd yn chwilio am ffyrdd o sicrhau bod y sector gofal yn y tymor hir yn cael ei drefnu a’i gefnogi’n briodol. ”

Lleihau’r bai

Dywedodd darparwyr gofal fod y sail ar gyfer sylwadau Boris Johnson yn aneglur, tra bod y Fforwm Gofal Cenedlaethol (NCF) wedi ei annog i ddechrau “cynyddu’r diwygio a lleihau’r bai”.

Croesawodd Vic Rayner, Cyfarwyddwr Gweithredol y Fforwm sy’n cynrychioli 120 o elusennau gofal cymdeithasol y Deyrnas Unedig, y ffaith fod y prif weinidog yn cydnabod yr angen am gyllid priodol.

“Fodd bynnag, nid yw sylwadau Boris Johnson mewn perthynas â chartrefi gofal yn dilyn gweithdrefnau yn gywir nac yn dderbyniol,” meddai.

“Mae canllawiau’r Llywodraeth wedi dod i’r sector mewn pytiau – gyda sefydliadau yn ymdopi â dros 100 o ddarnau o ganllawiau ychwanegol yn yr un nifer o ddyddiau, ac nid oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn cyd-fynd â dealltwriaeth o oblygiadau gweithredol gwasanaethau gofal.

“Mae darparwyr gofal wedi symud i fabwysiadu’r gweithdrefnau newydd hyn yn gyson, yn gyflym ac yn ddidwyll.”

Cyngor araf a gwrthgyferbyniol

Dywedodd y Grŵp Gofal Annibynnol (ICG) fod y mwyafrif helaeth o ddarparwyr wedi “gwneud eu gorau glas yn wyneb cyngor araf a gwrthgyferbyniol”.

“Ni ddylem fod yn bwrw’r bai ac mae’n anghywir beirniadu cartrefi gofal a chartrefi nyrsio ar hyn o bryd” meddai Mike Padgham, cadeirydd ICG.

Dywed mai dim ond pan ddaeth y gyfradd farwolaethau go iawn mewn cartrefi gofal i’r amlwg y dechreuodd y llywodraeth dderbyn fod gofal cymdeithasol yn y rheng flaen fel ysbytai.

“Efallai nad yw darparwyr gofal wedi cael popeth yn berffaith ond nid yw’r llywodraeth ychwaith,” ychwanegodd.

Ymateb Llafur

Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi beirniadu sylwadau Boris Johnson.

Dywed Liz Kendall, y llefarydd Gofal Cymdeithasol, y bu 30,000 o farwolaethau ychwanegol mewn cartrefi gofal ac o leiaf 20,000 o’r rhain wedi eu hachosi gan Covid-19.

“Cafodd 25,000 o bobl oedrannus eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal heb unrhyw brofion o gwbl, ac fe gafodd gweithwyr gofal rheng flaen eu gadael heb PPE hanfodol.

“Bydd staff sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i ofalu am bobl oedrannus, a phrofi pethau all y gweddill ohonom ond eu dychmygu, yn arswydo o glywed sylwadau’r prif weinidog.

“Dylai Boris Johnson fod yn gyfrifol am ei weithredoedd a datrys yr argyfwng mewn gofal cymdeithasol, gan beidio â beio cartrefi gofal am gamgymeriadau’r Llywodraeth hon.”