Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £2.6m o gyllid ychwanegol i gefnogi plant Cymru yn ystod gwyliau’r haf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol i ddarparu gofal plant dros yr haf.
Bydd £1.6m yn cael ei ddarparu drwy Gronfa Galedi Awdurdodau Lleol, gyda £1m yn dod o’r gyllideb addysg.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i benderfynu sut y bydd y cyllid yn cael ei wario.
“Mae ein hysgolion a’n darparwyr gofal plant wedi chwarae rôl bwysig i sicrhau bod gan ein plant ofal diogel, yn enwedig ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a phlant bregus,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
“Wrth i wyliau’r haf agosáu, mae’n hollbwysig bod ein plant yn parhau i gael gofal diogel a chyfle i chwarae’n ddiogel.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i ddarparu’r cymorth ychwanegol sydd ei angen dros yr haf”.
Prydau ysgol am ddim yn parhau
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd prydau ysgol am ddim yn parhau i fod ar gael i blant cymwys dros wyliau’r haf.
Cymru oedd gwlad gynta’r Deyrnas Unedig i ymrwymo i hyn.
“Rydyn ni wedi gweld ymgyrchu proffil uchel yn ddiweddar i sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod gwyliau’r haf dros y ffin,” meddai Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg.
“Ro’n i’n falch iawn i allu cadarnhau ein hymrwymiad, a gafodd ei wneud ym mis Ebrill, y byddai plant yng Nghymru yn parhau i gael prydau ysgol am ddim yn ystod yr haf.
“Bydd Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws, sy’n darparu gofal plant a ariennir i blant gweithwyr hanfodol a phlant bregus o dan 5 oed, yn parhau tan ddiwedd mis Awst.
“Byddwn yn ailedrych ar ddyfodol y Cynllun dros yr haf”.