Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi archwiliad o gerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau er mwyn ynd i’r afael â chysylltiadau cenedlaethol â masnachu caethweision.

Daw hyn yn dilyn mis o weithredu gan y mudiad Black Lives Matter, sydd wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb ar sail hil ar draws y byd.

Bydd yr archwiliad, a fydd yn cael ei gynnal ledled Cymru, yn cael ei arwain gan Gaynor Legall, sy’n gweithredu dros fenywod o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Mae hi wedi cael ei dewis oherwydd bod ganddi wybodaeth arbenigol o’r fasnach gaethweision, yr Ymerodraeth Brydeinig a hanes cymunedau duon yng Nghymru.

“Mae’r mudiad Black Lives Matter wedi tynnu sylw at nifer o faterion pwysig y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw fel gwlad,” meddai Mark Drakeford.

“Mae hyn yn arbennig o wir wrth i ni edrych ar erchyllterau’r fasnach mewn caethweision.

“Gallai unigolion sy’n gysylltiedig â’r fasnach mewn caethweision gael eu cofio mewn enwau strydoedd neu enwau adeiladau cyhoeddus.

“Maen nhw’n goffadwriaeth o orffennol nad ydym wedi ei herio’n llawn ac mae gofyn i ni ei herio nawr.

“Os caiff ei wneud yn y ffordd iawn, gallwn greu perthynas gyfoethocach a doethach gyda’n hanes. Gallwn ddod o hyd i straeon a ffigurau newydd i’w dathlu.

“Gallwn ddangos Cymru sy’n dathlu ein cymunedau amrywiol mewn ffordd haeddiannol.

“Dyma’r hyn y mae ein gorffennol yn ei haeddu ac y mae ein presennol am ei weld, a dyma sydd yn iawn”.