Mae elusen Age Cymru Gwynedd a Môn wedi derbyn £81,500 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae’r elusen yn helpu eu cymunedau lleol yn ardal Gogledd Orllewin Cymru.

Bydd yr £81,500 yn mynd tuag at ariannu project fydd yn cefnogi’r henoed a phobol fregus yn ystod pandemig y coronafeirws yn ogystal ag yn y dyfodol, pan fydd cyfyngiadau yn cael eu llacio.

“Bydd y cymorth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ein galluogi i barhau i fod yn rhagweithiol yn ein cymunedau gan ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn cyfnod lle mae lefelau unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn uwch oherwydd COVID-19,” meddai Eleri Lloyd Jones, Prif Swyddog yn Age Cymru Gwynedd a Môn.

“Byddwn yn darparu a chludo prydau poeth a hanfodion i gartrefi pobl, gan gadw mewn cysylltiad ac ymgymryd â galwadau ffôn rheolaidd, yn ogystal â darparu cyngor a gwybodaeth lle bo angen. Rydym yn hynod falch o dderbyn yr arian yma mewn cyfnod ansicr iawn yn ariannol i elusennau lleol.”

Dywed Nia Hughes, Swyddog Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Ngwynedd: “Dros y cyfnod heriol hwn, mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn enghraifft wych o sut mae elusennau yn gweithio’n galed i gefnogi eu cymunedau ac yn rhoi cymorth i’r rheini sydd ei angen fwyaf.

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ei gwneud yn bosibl i ariannu projectau fel hyn sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl yng Ngogledd-Orllewin Cymru.”