Mae’r SNP yn cael eu cyhuddo o fod yn “ddi-chwaeth” wrth werthu gorchuddion wynebau â logo’r blaid arnyn nhw.

Mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo plaid lywodraeth yr Alban o fod yn “ddi-chwaeth” drwy elwa ar gynnyrch sydd wedi’i greu yn sgil eu polisi iechyd eu hunain.

Mae Annie Wells, dirprwy arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, wedi ysgrifennu at Peter Murrell, prif weithredwr yr SNP a gŵr y prif weinidog Nicola Sturgeon.

Mae hi’n ei annog i wahardd gwerthu’r gorchuddion ar unwaith, ac i roi unrhyw elw i gwmnïau neu elusennau’n ymwneud â’r coronafeirws.

Y gorchuddion

Mae modd prynu’r gorchuddion oddi ar wefan yr SNP, ac mae’r pris yn amrywio o £8 ar gyfer mwgwd cyffredin i £14 ar gyfer penwisg aml-bwrpas.

Mae modd prynu sawl dyluniad gwahanol – logo’r blaid, baner yr Alban neu tartan yr SNP.

“Mae elwa ar argyfwng cenedlaethol yn gam eitha’ di-chwaeth ar ran yr SNP,” meddai Annie Wells.

“Mae’n ymddangos, yn eu brys i wneud arian, fod yr SNP wedi anghofio bod miloedd o bobol wedi marw o Covid, gan achosi cryn ddioddefaint i’w ffrindiau a’u teuluoedd.”

Ymateb yr SNP

Wrth ymateb, mae’r SNP yn annog pobol i ddilyn y canllawiau ar gyfer gorchuddion wynebau.

“Yn union fel clybiau pêl-droed a sawl clwb arall, rydym wedi lansio’n gorchuddion wynebau ein hunain sydd wedi’u brandio,” meddai llefarydd.

“Byddem yn annog pawb i helpu i dawelu’r feirws drwy ddilyn y canllawiau ar orchuddion wynebau.”