Mae’r digrifwr Siôn Owens wedi dweud wrth golwg360 fod cyfnod clo’r coronafeirws yn gyfle i dyfu’r sîn gomedi Gymraeg, ar drothwy’r sioe stand-yp ar-lein gyntaf yn gyfan gwbl yn Gymraeg nos Iau (Gorffennaf 30).
Y digrifwr o Gaernarfon, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn helpu Gŵyl Arall gyda’r digwyddiad, wrth iddyn nhw hefyd orfod troi at y we i gynnal eu digwyddiadau eleni, gan ei alw’n ‘Gŵyl Ffor’ Arall’.
“Hwn ydi’r gig stand-yp cyntaf ar-lein, o be’ dwi’n ddallt, yn y Gymraeg,” meddai Siôn Owens.
“Dwi’m yn gwybod pam mai hwn ydi’r cynta’ yn Gymraeg achos mae ’na lot o rai Saesneg wedi bod yn digwydd ers misoedd.
“Mae ’na lai ohonan ni yn Gymraeg, felly mae angen i rywun gymryd yr initiative bach mwy er mwyn trefnu fo.”
Er mai dyma’r sioe stand-yp gyntaf ar y we yn gyfan gwbl yn Gymraeg, fe fu Siôn Owens yn cymryd rhan yn ddiweddar yn un arall o ddigwyddiadau’r ŵyl.
“Neshi neud noson arall iddyn nhw bythefnos yn ôl o’r enw Uffern Fach,” meddai.
“Roedd o bach fel Room 101 yn y Gymraeg, a hwnnw oedd y digwyddiad comedi ar-lein cyntaf yn y Gymraeg i fi gymryd rhan yno fo.
“Mae’n neis cael teimlo bo ti’n rhan o’r byd yna eto.”
Lein-yp
Y rhai fydd yn cymryd rhan yn y noson yw Siôn Owens ei hun, Beth Jones, Daniel Griffith ac Eleri Morgan, gyda Dan Thomas yn MC.
Mae’n dweud bod dewis y rhai fyddai’n cael gwneud y gig arwyddocaol hwn yn fwy anodd nag arfer wrth lunio lein-yp y noson.
“A deud y gwir, roedd o’n ddewis eitha’ anodd achos dwi’n siŵr fasa pob un digrifwr Cymraeg isio slot achos mae pawb isio cael go yn trïo fo am y tro cynta,” meddai.
“Neshi ddewis Daniel Griffith achos mae o’n foi o G’narfon ei hun a dw i wrth fy modd yn gweld o mewn gigs a gan fod o’n byw yng Nghaernarfon.
“Dwi ddim yn gweld o hanner cymaint â digrifwyr eraill achos mae rhan fwya’r digrifwyr eraill yn byw yng Nghaerdydd a dwi’n gweld nhw’n eitha’ aml.
“Bob tro dw i’n trefnu gig yn y gogledd, dwi’n trïo rhoi slot i Dan.
“Beth Jones, dw i wrth fy modd efo hi… dw i’n ffan mawr o bob un dwi wedi’u dewis.
“O’n i’n meddwl fasa Dan Thomas yn un da i MCio achos mae o’n MC anhygoel, dw i wedi’i weld o’n MCio yn y Glee ac o’n i’n gwybod os fasa rhywun yn fwy cyfforddus yn trio hwn fel rhywbeth newydd a’r llaw mwya’ profiadol i’w wneud o’n lwyddiant, yna Dan Thomas fasa’r boi i’w wneud o.”
Mynd â chomedi Cymraeg i gyfeiriad newydd?
Mae’r sîn gomedi Gymraeg yn gysyniad tipyn mwy diweddar na’r sîn Saesneg ac yn ôl Siôn Owens, mae cynnal mwy o ddigwyddiadau ar-lein yn ystod y cyfnod clo yn gyfle i dyfu’r sîn.
Ond a all gigs byw lwyddo heb gynulleidfa?
“Faswn i’n licio gallu profi bo ti’n gallu gneud y gigs ar-lein achos mae ’na lot wedi bod yn digwydd yn Saesneg ac i ddechrau, o’n i’n eitha’ amheus am sut fasa hynna’n digwydd,” meddai.
“Un o’r prif bethau efo comedi ydi’r ymateb mae’r gynulleidfa’n rhoi i chdi a ti’n gweithio ar be’ ti’n clywed.
“Ond be’ maen nhw’n gneud ydi rhoi front row tickets, so fydd pobol ar Zoom ddim ar mute, felly byddan ni’n clywed nhw’n chwerthin (gobeithio!), felly o leia’ ti’n cael rhyw fath o feedback ar ei gyfer o.
“Dw i’n meddwl mai’r nerfusrwydd o fod y cynta’ i drefnu rhywbeth fel hyn sydd wedi’i ddal o nôl.
“Gobeithio fydd yr un yma yn profi, er efallai fydd o ddim mor dda â gig byw, ond pam ddim gallu cael hyn i ddigwydd eniwe?
“Os bydd hwn yn mynd yn dda, bydd ’na fwy yn cael eu trefnu, o be’ dwi’n ddallt.
“Maen nhw’n iwsio hwn fel rhyw fath o trial run.”
Perfformio heb gynulleidfa
Fel cerddor a chyn-aelod o’r band Y Bandana, mae Siôn Owens yn hen law ar berfformio caneuon mewn stiwdio heb gynulleidfa.
Ond pa mor wahanol fydd y profiad o berfformio i gamera heb y gynulleidfa i Siôn Owens, y digrifwr?
“Dwi wedi perfformio cerddoriaeth heb gynulleidfa ond dydi hynna ddim yn gymaint o big deal achos ti jyst yn perfformio cân a phan wyt ti’n ffilmio ar gyfer y teledu pan wyt ti’n gneud cerddoriaeth, does ’na ddim cynulleidfa ac rwyt ti jyst yn chwarae’r gân y gorau ti’n gallu yn y gobaith fydd o’n cael ei ddarlledu wedyn,” meddai.
“Ti ddim yn tynnu ar y gynulleidfa fel yna, ond dyma’r tro cynta’ i fi wneud rhywbeth comedi o ran bo ’na ddim cynulleidfa yna.
“Mae’n siŵr bod rhai yn gallu deud bo nhw wedi gneud gigs lle oedd ’na ddim lot o gynulleidfa yna…!
“Dwi wedi perfformio o flaen camera cwpwl o weithiau.
“Un o’r pethau cynta’ wnaeth S4C Comedi oedd rhywbeth stand-yp o’r enw Pwnc Pum Munud ac efo hwnna, oeddach chi’n trefnu gig a chael cynulleidfa yna ac oeddan nhw jyst yn ffilmio chdi’n gneud comedi.
“Ro’n i hefyd yn rhan o’r Gala Comedi gafodd ei ddarlledu amser ’Dolig, a hwnna oedd profiad cynta’ fi o gael rhywbeth wedi’i ddarlledu ar y teledu.
“Mae’n bwysig iawn cael cynulleidfa’n rhan o hwnna neu’r opsiwn arall ydi delifro’r jôc ac aros ac wedyn, ydyn nhw’n ychwanegu rhywbeth mewn fel laughing track? Dw i ddim yn rhy siŵr sut fasa rhywbeth fel yna’n gweithio.
“O ran ffilmio rhywbeth comedi ar gyfer ar-lein neu’r teledu, mae’n eitha’ pwysig cael cynulleidfa yn fy marn i.”
Prisio tocynnau ar-lein
Mae pris tocynnau ar gyfer gigs comedi, yn Saesneg ac yn Gymraeg, yn amrywio tipyn, er bod gigs Cymraeg, ar y cyfan, yn rhatach.
Ond sut mae mynd ati i benderfynu faint ddylai pobol fod yn ei dalu wrth wylio gig byw yn eu lolfa?
“Mae’n anodd prisio achos ti’n meddwl, ‘Faint faswn i’n fodlon talu am hyn?’ hyd yn oed os oes ’na enw eitha’ mawr,” meddai.
“Dw i’n teimlo, weithiau os wyt ti’n talu i fynd i gig, ti’n talu am y profiad o fynd i venue, gweld pobol, gallu cael diod a ti’n talu am atmosphere, tra adra, ti ond yn talu am y content ti’n gael.
“Dwi’n tueddi i feddwl, os ti’n talu £1 am bob perfformiwr mae’n deg.
“Mae lot o bobol yn meddwl am hyn yn wythnosol… os ydyn nhw’n g’neud y swydd yn llawn amser, a dwi’n meddwl fod o’n eitha’ anodd iddyn nhw wybod beth fyddai’r pris mwya’ rhesymol.
“Bydd rhaid iddyn nhw neud o mewn ffor’ lle maen nhw’n gwybod fod y gynulleidfa am ddod, felly ddim yn rhy ddrud ond eto, ddim yn rhy rhad… fel bod o werth g’neud.”
Dod yn ôl i drefn
Ar ôl i gyfnod y coronafeirws ddod i ben ar ôl i leoliadau ddechrau agor eu drysau unwaith eto – os byddan nhw wedi llwyddo i oroesi’r cyfnod yn ariannol – mae’n debygol y bydd y byd comedi yn edrych yn wahanol iawn.
Fe fu pryderon yn ddiweddar y gallai rhan fwya’r sîn – o leoliadau i ddigrifwyr a hyrwyddwyr – ddiflannu.
Yn ôl Siôn Owens, mae hynny’n cynnig y cyfle i’r sîn gael ei datblygu mewn ffyrdd newydd.
“Mae ’na lot o sôn yn barod am bobol yn trefnu gigs awyr agored,” meddai.
“Mae’r rheolau nawr bach yn wahanol ac maen nhw’n deud os ’dach chi isio slot, ’dach chi’n gorfod dod â meicroffôn eich hunan.
“Mae o’n rywbeth teg i’w wneud achos wedyn mae pawb yn cadw at social distancing a dydi digrifwyr ddim yn gorfod rhannu meicroffôn efo poer a germs digrifwyr eraill arno fo.
“Mae’n dechrau digwydd yn barod, dwi wedi clywed am gynnig gigs yn ne-orllewin Lloegr ac mae sôn am ddechrau cael rhai yng Nghaerdydd hefyd, a dw i am drio cael slot yn un o’r rheina cyn gynted â dw i’n gallu.
“Dw i’n credu bydd pawb yn trio cael slot, a deud y gwir, a fyddan nhw’n troi’n eitha’ competitive yn enwedig am bo ni ddim cymaint o gigs ag oedd ’na.
“Roedd y sîn Gymraeg angen lot o dyfu yn y lle cynta’ eniwe.
“O ran y pethau sy’ wedi cael eu heffeithio fwya’ gan Covid, faswn i ddim yn meddwl bod comedi wedi cael ei effeithio hynna faint, achos oeddan ni’n tueddu mynd i’r un lleoliadau â lle’r oedd gigs cerddoriaeth yn digwydd a ballu.
“‘Dan ni yn yr un un cwch â phobol sy’n g’neud cerddoriaeth, a dw i’n meddwl fydd pawb yn keen i ddechrau gigio eto…
“Ro’n i’n trio trefnu rhyw fath o daith fy hun cyn i’r Covid yma ddigwydd, jyst i dyfu sioe fy hun i fynd i Gaeredin neu wbath.
“Mi neith o dyfu, mi neith o ddod nôl, s’dim angen poeni am hynna.”
Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y gig nos Iau, sy’n dechrau am 8 o’r gloch, drwy fynd i wefan Gŵyl Arall.