Mae’r Bil Etholaethau Seneddol, a fydd yn gwrthdroi cynigion cynharach i gwtogi nifer yr ASau i 600, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, yr Arglwydd True, fod etholaethau ar hyn o bryd yn adlewyrchu sut roedd y Deyrnas Unedig bron i ddau ddegawd yn ôl, ac y byddai’r ddeddfwriaeth yn diweddaru etholaethau seneddol ac yn sicrhau eu bod yn “gyfartal”.
“Camgymeriad gwael”
Gwnaed y penderfyniad i dorri nifer yr Aelodau Seneddol i 600 gan y llywodraeth glymblaid tua degawd yn ôl.
Fodd bynnag, meddai’r Arglwydd True, ers hynny mae nifer yr etholwyr yn y Deyrnas Unedig wedi tyfu, ac mae Aelodau Seneddol bellach yn cynrychioli mwy o etholwyr nag erioed o’r blaen.
Ar ran y Blaid Lafur, croesawodd y Farwnes Hayter o Kentish Town y Bil am gywiro “camgymeriad gwael” y glymblaid o leihau maint y Senedd.
Ond ymosododd ar gynlluniau i ddileu rôl y Senedd wrth gymeradwyo newidiadau i ffiniau.
Rhybuddiodd y Farwnes Hayter: “Mae gadael penderfyniadau cyfansoddiadol mawr i swyddogion, heb unrhyw oruchwyliaeth Seneddol, yn anodd ei amddiffyn.”
“Cymru yn cael ei tharo’n fwyaf llym”
Roedd yr Arglwydd Hain, cyn-Weinidog yn y Cabinet pan oedd Llafur mewn grym, hefyd yn feirniadol o’r Bil, gan ddweud ei fod yn gwanhau democratiaeth leol.
“Ers cenedlaethau, mae ffiniau etholaethau wedi cael eu hadolygu a’u haddasu gan gytundebau lleol, nid gan ddictad canolog.
“Mae pobl leol wedi cael y cyfle i wrthwynebu pe bai hunaniaethau cymunedol o dan fygythiad, neu pe bai uno anaddas gyda threfi neu bentrefi cyfagos yn cael ei gynnig.
“Ond mae’r Bil hwn wedi cael gwared ar hyn [a’i ddisodli gyda] fformiwla anhyblyg… gyda Chymru yn cael ei tharo’n fwyaf llym,” meddai’r Arglwydd Hain.
Dyma’r ail ddarlleniad o’r Bil, sydd eisoes wedi clirio Tŷ’r Cyffredin. Y cam nesaf fydd Pwyllgor yn craffu arno’n fanwl ar ôl egwyl yr haf.