Mae Plaid Cymru’n rhybuddio y gallai’r Celfyddydau “ddiflannu dros nos” yng Nghymru oni bai bod y llywodraeth yn camu i’r adwy.
Mae Siân Gwenllian, llefarydd diwylliant y blaid, yn galw am eglurder ynghylch pa gymorth ariannol fydd y diwydiant yn ei dderbyn – bron i bythefnos ar ôl i’r prif weinidog Mark Drakeford ddweud bod cyhoeddiad ar ddod.
Fe ddywedodd ar Orffennaf 17 fod cyhoeddiad am gymorth “yn agos iawn” fel rhan o gam cyntaf pecyn gwerth £59m a gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Prydain ar Orffennaf 5.
Mae’r oedi’n annerbyniol, yn ôl Siân Gwenllian, sy’n dweud bod eglurder yn angenrheidiol er mwyn gwarchod sector sydd “ar ei gliniau” erbyn hyn, yn ogystal â’r 60,000 o bobol sy’n cael eu cyflogi yn y sector.
Mae’n dweud ei bod hi wedi anfon sawl llythyr yn gofyn am eglurhad ac am dair ymyrriad yn benodol, gan gynnwys cynllun ar gyfer y Celfyddydau, a chafodd y llythyr gefnogaeth artistiaid fel Charlotte Church a Catrin Finch.
‘Dal i aros’
“Er y sicrwydd a ddarparwyd gan y Prif Weinidog bythefnos yn ôl (17 Gorffennaf) ei fod e’n ‘agos iawn at wneud cyhoeddiad’ am ‘gyfran gyntaf y cyllid’ o’r pecyn Cymorth £59m ar gyfer y Celfyddydau, mae’r sector dal i aros am newyddion ac eglurhad,” meddai Siân Gwenllian.
“Mae’r sector gelf ar ei gliniau ac angen eglurhad gan Lywodraeth Cymru yn syth.
“Mae galwadau Plaid am eglurder wedi’u hanwybyddu gan y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant gyda’r oedi yn awgrymu un o ddau bosibiliad – diffygion difrifol gan Lywodraeth neu amharodrwydd i gefnogi’r sector celfyddydau yng Nghymru.
“Mae’r sector creadigol a chelfyddydau yn rhan bwysig o economi Cymru, gan gyflogi bron i 60,000 o bobl, a gall chwarae rhan bwysig wrth gefnogi lles y cyhoedd gan helpu ni gyda ymdopi gyda cyfyngiadau Covid-19.
“Ond os nad yw cymorth ariannol yn cael ei gynnig yn fuan, bydd rhannau o’r diwydiant yn diflannu dros nos – gan gymryd blynyddoedd i adfer.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd y rhybudd yma o ddifri.”