Mae Cymro sydd ar wyliau yn Sbaen ar hyn o bryd yn dweud bod clywed am y cwarantîn ar bobol o wledydd Prydain sydd wedi teithio i’r wlad yn “sioc anferthol”.

Bydd rhaid i bobol sydd yn Sbaen fynd i gwarantîn am 14 diwrnod ar ôl dod adref, ond doedd y cyhoeddiad ddim wedi cael ei wneud tan ddydd Sadwrn (Gorffennaf 25), ar ôl i lawer iawn o deithwyr adael am eu gwyliau.

Roedd Rhys Boore, ei wraig a’u tri o blant o Gaerdydd wedi bod yn aros yn Costa Blanca ers rhai diwrnodau pan ddaeth y cyhoeddiad, ac mae’n dweud wrth golwg360 na fydden nhw wedi mynd pe baen nhw’n gwybod y byddai’n rhaid iddyn nhw ynysu ar ôl dod adref.

“Ro’n ni yma ryw ddeuddydd, tridiau cyn clywed am y cwarantîn felly roedd hynny’n bach o sioc achos tasen ni’n ei ddisgwyl, fasen ni ddim wedi dod ma’s yma o gwbl,” meddai.

“Mae’n mynd i greu lot o drafferthion pan ’dan ni’n cael adre’.

“Mae wedi bod yn ddigon anodd dros y pedwar mis diwetha’ yn cadw’n hunain i’n hunain, ond mae’r cwarantîn yma’n mynd i fod yn gam sylweddol ychwanegol i hynny.

“Mi fydd hynny’n creu problemau i ni.”

Ymateb trigolion Sbaen

Mae Rhys Boore wedi gweld drosto’i hun yr effaith mae’r cwarantîn wedi’i chael ar drigolion Sbaen.

“Mae newyddion Sbaen yn llawn o’r peth ac yn amlwg, maen nhw’n pryderi’n anferthol o ran yr effaith mae’n mynd i gael ar eu diwydiant twristiaeth nhw,” meddai.

“Dwi’n credu ei bod nhw’n ei ffeindio hi’n anodd iawn i ddeall pam mae’r datganiad yma wedi cael ei wneud gan y llywodraeth ym Mhrydain.

“Fel maen nhw’n gweld e, mae’r prif ardaloedd lle mae’r twristiaid yn mynd lawr yn y de tuag at Malaga a’r ardal yna, ac wedyn ar y Costa Blanca lle ’dan ni, ychydig iawn o achosion sydd yn yr ardaloedd yna.

“Mae lot o’r achosion ar draws y gogledd yng Ngwlad y Basg, Madrid a Chatalwnia.

“Dw i’n cael y teimlad bo nhw’n methu deall pam fod hwn wedi cael ei osod dros y wlad i gyd.”

Yn ôl Rhys Boore, mae cryn drafod am y sefyllfa yn y newyddion yn Sbaen.

“Mae ’na lot ar y newyddion, a rhan swmpus o’r rhaglenni newyddion yn ymwneud â’r newyddion,” meddai.

“Dwi newydd droi ymlaen eto ac mae’n brif newyddion.”

Cymryd camau diogel

Dywed Rhys Boore fod trigolion Sbaen yn cymryd y sefyllfa o ddifri ac yn gwisgo mygydau.

Ond mae’n dweud bod hynny hefyd yn arwain at beidio cadw pellter.

“Oherwydd y mwgwd, mae’n amlwg fod elfen o fod y mwgwd yn gwneud y gwaith ac felly does dim angen cadw pellter wrth bobol,” meddai.

“Dych chi’n gallu gweld yn y dinasoedd mawr, lle mae lot mwy dan do, fod hynny’n gallu achosi rhyw fath o broblem o bosib.

“Ond lle ’dan ni yma, mae bron iawn popeth yn yr awyr agored.

“Mae’r bwytai a’r bariau i gyd yn awyr agored, felly mae’n llai o broblem ond mae llefydd yng Ngwlad y Basg a Barcelona lle mae lot mwy o bobol a Madrid efallai bod y teimlad fod y mwgwd yn gwneud y gwaith yn creu rhan o’r broblem.

“Mae angen i bawb ddefnyddio hand sanitizer wrth fynd i mewn i siop ac os ’dach chi ddim, mae rhywun yn eich galw chi ’nôl i wneud, ac mae hynny’n drawiadol.

“Aethon ni mewn i’r archfarchnad am y tro cyntaf a wnaeth y fenyw wrth y til ein galw ni’n ôl i wneud yn siŵr bo ni’n defnyddio’r sanitizer.

“Mae hynny’n amlwg yn wahanol i adre’, lle ’dach chi’n dewis os ’dach chi am ei ddefnyddio neu beidio.

“Mae pawb yn gwisgo mwgwd a ’dan ni wedi gweld bod 99% o bobol yn gwisgo mwgwd wrth gerdded o gwmpas.

“Pan aethon ni mewn i’r wlad, roedd angen cofrestru gyda’r awdurdodau ac roedden nhw’n cymryd eich tymheredd wrth fynd i mewn.

“Dyna’r norm a dyna ’dach chi’n gwneud.”

Dod adref i’r cwarantîn

Ar ôl gweld y mesurau ar waith a theimlo’n ddiogel yn Sbaen, mae Rhys Boore yn dweud bod meddwl am ddod adref i’r cwarantîn yn “rhwystredig dros ben”.

“Does ’na fawr o broblem yn yr ardal lle ’dan ni,” meddai.

“Mae fel dweud bod ’na broblem yng Nghaerdydd felly mae rhaid i bawb ym Mangor mynd i mewn i gwarantîn.

“Dyw e ddim yn gwneud sens, ac yn teimlo fel bod Llywodraeth Prydain yn gwneud polisi heb feddwl y peth trwyddo, fel dw i’n teimlo sydd wedi digwydd trwy gydol y cyfnod yma.

“Does dim pwynt meddwl a phryderi am bethau fedra’ i ddim gwneud unrhyw beth amdano tan dw i adre’, ond mae wedi effeithio ar fy mhlentyn ifanca’ sy’n poeni bod y datganiad gan y llywodraeth yn golygu bod problem yma yn Sbaen, a bod posibilrwydd o gael y feirws draw fan hyn.

“Mae’n effeithio ar ei mwynhad hi o’i gwyliau.

“Tra roedd gyda ni’r cyfnod clo o’r blaen, roedden ni’n dal yn medru mynd ma’s i siopa a mynd â’r ci am dro.

“Fel dw i’n deall y cwarantîn nawr, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud pethau felly, ac mae hynny’n mynd i amharu ar y ffordd ’dan ni’n cael adre’n aruthrol.”