Bydd pobol Caerfyrddin yn cael parcio am ddim yng nghanol trefi’r sir am fis arall.

Daw hyn wedi i Gyngor Sir Caerfyrddin gytuno i ymestyn y cyfnod presennol o barcio am ddim, a gafodd ei gyflwyno ar ddechrau’r gwarchae.

Mae’n cael ei ymestyn drwy gydol mis Awst i gynnig haf o barcio am ddim ym meysydd parcio canol trefi.

Dywed Bwrdd Gweithredol y cyngor ei fod yn barod i dderbyn y golled sylweddol mewn incwm, dros £1.1 miliwn a fyddai fel arfer yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau priffyrdd a thrafnidiaeth hanfodol, er mwyn gefnogi busnesau canol tref.

Mae’r penderfyniad hefyd yn cefnogi’r newidiadau sydd wedi’u cyflwyno yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman o Awst 3 ymlaen.

O fis Medi, bydd y Cyngor yn dychwelyd at y cynllun peilot o gyflwyno parcio am ddim ar ddyddiau penodol yn seiliedig ar adborth gan fasnachwyr a fforymau busnes.

Bydd hyn ar gael o ddydd Llun i ddydd Mercher, rhwng 10yb-2yp yn Sanclêr, Castellnewydd Emlyn, Llanymddyfri, Llandeilo a Rhydaman; rhwng 10yb-4yp yn Llanelli; a dydd Mawrth a dydd Iau, 3.30-6yp yng Nghaerfyrddin.

‘Denu ymwelwyr a helpu rhieni’

“Yn ystod pandemig Covid-19 penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin beidio â chodi tâl am barcio,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, yr aelod sy’n gyfrifol am yr Amgylchedd.

“Rydym wedi parhau i gynnig parcio am ddim am bedwar mis.

“Rwy’n cynnig ein bod yn parhau i gynnig parcio am ddim tan 1 Medi, drwy gydol mis Awst, er mwyn denu ymwelwyr a helpu rhieni sydd eisiau siopa ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, ac i gefnogi adfywio ein trefi.

“Er y bydd hyn yn effeithio ar ein cyllideb, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi adfywio gan sylweddoli bod arian o’n meysydd parcio yn cefnogi llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus.

“Byddwn yn parhau i gynnig y cyfnodau am ddim sydd ar gael i bob tref ar hyn o bryd.”