Mae dynes wedi cael anafiadau difrifol ar ôl cwympo o adeilad yn Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ganol y ddinas am oddeutu 5.50 neithiwr (Gorffennaf 27).

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty ac mae dyn 45 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth a thystion.