Bydd Cymru yn derbyn £1.7m er mwyn mynd i’r afael â bwrgleriaeth, yn ôl Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan.
Mae’n rhan o becyn gwerth £25m ar draws Cymru a Lloegr, sydd â’r bwriad o gynyddu cyllid 35 o gomisiynwyr yr heddlu, yn ôl y Swyddfa Gartref.
Bydd y cyllid yn targedu bwrgleriaeth a lladrata mewn ardaloedd lle mae troseddu ar ei waethaf.
“Bydd y buddsoddiad rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn ariannu mesurau i wneud cymunedau yng Nghymru’n saffach,” meddai Priti Patel.
“Rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn gwneud popeth allwn ni i stopio bod yn ddioddefwyr i’r troseddau hyn.”
Dywed y Swyddfa Gartref y bydd y cyllid yn cael ei wario ar fesurau megis rhagor o olau stryd a gosod mwy o gamerau CCTV.