Mae systemau cyfrifiadurol ail brifysgol yng Nghymru wedi cael eu hacio, ddyddiau’n unig ar ôl y gyntaf.
Mae Prifysgol De Cymru yn dweud eu bod nhw ymhlith 20 o sefydliadau sydd wedi cael eu heffeithio ar ôl i hacwyr ymosod ar systemau wrth gefn.
Yn yr un modd â Phrifysgol Aberystwyth, cafodd manylion e-bost ac enwau cyn-fyfyrwyr eu datgelu yn yr ymosodiad Blackbaud.
Mae gan Brifysgol De Cymru safleoedd yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd, yn ogystal â Dubai.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cael gwybod.
Ymateb y brifysgol
“Mae Blackbaud wedi rhoi gwybod i ni’n ddiweddar iddyn nhw ddioddef peryglu data ym Mai 2020, sydd wedi effeithio ar nifer o brifysgolion,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru.
“Ers cael gwybod am hyn, rydym wedi bod yn gweithio er mwyn deall pa ddata gafodd ei beryglu o blith ein cofnodion.
“Rydym yn deall mai cyfeiriadau e-bost ac enwau o adran ar fas data ein cyn-fyfyrwyr oedd hyn.
“Rydym bellach wedi cysylltu â phawb yr ydym yn credu i’w maylion gael eu cynnwys.
“Pan gawson ni wybod am y digwyddiad, fe wnaeth Prifysgol De Cymru adrodd amdano wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
“Rydym yn cyfathrebu â’r cyflenwr er mwyn darganfod pam fod oedi cyn rhoi gwybod i ni am beryglu’r data, ac i roi sicrwydd i ni nad yw’n debygol y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei ailadrodd.”