Mae Pennaeth Canolfan Rheoli ac Atal Clefyd Tsieina wedi dweud iddo gael ei chwistrellu gyda brechlyn coronafeirws arbrofol.

Roedd cwmni Tsieineaidd wedi rhoi brechlyn arbrofol i weithwyr ym mis Mawrth, cyn i’r llywodraeth gymeradwyo profion mewn pobol.

Cafodd hynny ei feirniadu’n llym gan rhai arbenigwyr ar sail foesegol.

Wnaeth Gao Fu ddim datgelu pryd na sut iddo dderbyn y brechlyn, a dyw hi ddim yn glir a oedd o’n rhan o dreialon ar bobol sydd wedi eu cymeradwyo gan y llywodraeth.

“Dw i am ddatgelu rhywbeth dirgel, rwyf wedi derbyn un o’r brechlynnau,” meddai Gao Fu.

“Rwyf yn gobeithio y bydd yn gweithio.”

Daw hyn wrth i gwmnïau Americanaidd, Prydeinig a Tsieineaidd gystadlu i fod y cyntaf i ddatblygu brechlyn i’r coronafeirws.

Mae wyth o’r ddau ddwsin o frechlynnau sydd yn cael eu profi ar bobol wedi dod o Tsieina, y mwyaf o unrhyw wlad.

Codi hyder y cyhoedd mewn brechlynnau

Dywed Gao Fu ei fod wedi derbyn y brechlyn er mwyn codi hyder y cyhoedd mewn brechlynnau.

“Mae pawb yn amheus ynghylch brechlyn coronafeirws newydd,” meddai.

“Fel gwyddonwyr, mae’n rhai i chi fod yn ddewr, a hyd yn oed petawn ni heb wneud hynna, sut allwn ni berswadio’r byd, y bobol a’r cyhoedd i dderbyn brechlyn?”

 Tensiynau rhyngwladol

Daw cyhoeddiad Gao Fu yn ystod cyfnod o densiynau rhyngwladol sydd wedi eu tanio gan y pandemig.

Roedd y ffaith i Beijing oedi cyn rhybuddio’r cyhoedd a chyhoeddi data ar ddechrau’r pandemig wedi cyfrannu’n sylweddol at ledaeniad y feirws, tra bod Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi honni sawl gwaith bod y feirws wedi dod o labordy yn ninas Wuhan.

Mae tensiynau wedi cynyddu i’r pwynt lle mae’n effeithio ymchwil, gan arwain at rwystredigaeth ymysg gwyddonwyr sy’n chydweithio â phobol Tsieineaidd.

Mae Gao Fu wedi galw am fwy o gydweithio rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina.

“Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd,” meddai.