Mae tân ar safle ffatri beiriannau ceir Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr bellach wedi ei ddiffodd.

Cafodd chwe chriw tân eu galw i’r ffatri am 7.41yh neithiwr (nos Lun, Gorffennaf 27), ac yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru roedd y tan wedi ei ddiffodd erbyn 9.45yh.

Cafodd criwiau tân eu danfon o Ben-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Mynydd Cynffig, Pencoed, Y Dafan Newydd, a’r Eglwys Newydd.

Bydd y ffatri’n cau ddiwedd y flwyddyn gan ddiswyddo 1,700 o weithwyr.